Skip to content

Hydref 2017

    Ein siaradwr gwadd yng nghyfarfod Hydref oedd y gŵr ifanc o Gaerfyrddin – Steffan Hughes sy’n  gyn athro cynradd ac erbyn hyn yn mynd o gwmpas ysgolion i hybu chwaraeon. Croesawyd ef gan y Cadeirydd Eifion Evans.

    Magwyd Steffan yn ardal Llanarth, Aberaeron ac aeth i’r ysgolion lleol.  Roedd diddordeb mawr ganddo mewn chwaraeon ers yn ifanc yn enwedig pêl droed. Chwaraeodd i dîm Aberystwyth ac enillodd bum cap i dîm dan ddeunaw Cymru.

    Yn ystod ei gyflwyniad bu’n adrodd ei hanes a’i brofiadau fel tywysydd i athletwraig ddall o Gaerdydd, merch o’r enw Tracy Hinton oedd yn rhedeg y pellter 400 a 800 metr.  Bu Steffan yn dywysydd ffyddlon iddi am nifer o flynyddoedd mewn amryw gystadleuaeth ym Mhrydain, Ewrop, Pencampwriaethau’r Byd a’r Gymanwlad a hefyd mewn gemau Paralympic ar dri achlysur rhwng 2004 a 2012.

    Daeth yn amlwg bod gan Steffan a Tracy berthynas proffesiynol arbennig iawn a bu’n ei chanmol am ei hagwedd a’i phendantrwydd i oresgyn ei hanabledd. Yn brawf i hyn bu’n rhedeg mewn cystadlaethau o 1992 tan y flwyddyn 2014 ac mae’n dal i redeg ambell hanner marathon gyda’i phartner Ralph.

    Cafwyd noson ddiddorol iawn yng nghwmni Steffan a diolchodd Eifion Evans iddo.  Fel arfer darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth a chael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.