Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Hydref 31ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu g��r gwâdd y noson sef Emyr Phillips o Gilgerran. Mae Emyr yn gyn brifathro ysgol gynradd Eglwyswrw ac yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013. Hanes rheilffordd y Cardi Bach oedd ganddo ac aeth a ni nôl i’r cyfnod pan oedd Aberteifi yn borthladd prysur a phwysig. Cafwyd holl hanes John Owen, prif ysgogwr creu’r rheilffordd o Hendy Gwyn ar Daf i Aberteifi. Rheolwr chwarel llechi yn y Glôg oedd John Owen ac yn dilyn cynllunio manwl dros gyfnod o ddwy flynedd, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r rheilffordd yn 1870. Symudodd y dasg enfawr hon ymlaen gan agor y lein hyd Llanfyrnach a’r Glôg dair mlynedd yn ddiweddarach. Cario nwyddau wnaeth y tren yn y dyddiau cynnar ond yn 1875 dechreuodd y Cardi Bach yn swyddogol i gario pobol ac yn 1885 agorwyd y lein hyd Aberteifi.