Cynhaliwyd cyfarfod Mis Hydref ar Nos Iau 4ydd yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawodd y cadeirydd Eric Hughes y siaradwr gwâdd, un o’r aelodau, sef Anthony Thomas o Meidrim. Ym mis Mehefin, yn anffodus cafodd Anthony llawdriniaeth yn ysbyty Treforys pan gollodd ei goes chwith o dan y benglin. Yr oedd hyn oherwydd effaith Clefyd y Siwgwr. Bu Anthony yn sôn am y gofal arbennig gafodd yn Ysbyty Treforys ac ar ôl symud yn ôl i Glangwili. Hefyd soniodd am y broses aeth drwyddi er mwyn cael coes ffug. Bydd yn symud yn ôl i’w gartref ar ddiwedd mis Tachwedd. Mae wedi gwella’n wyrthiol a diolchodd am y gefnogaeth gafodd ac yn dal i gael gan deulu a ffrindiau. Mae hyn wedi bod yn help mawr iddo ddod dros y llawdriniaeth ac yn cyfrannu’n helaeth at ei wellhad. Diolchwyd a dymunwyd yn dda iddo gan Verian Williams.