Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Hydref 28ain. Cafwyd gair o groeso gan Ken Thomas cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef Hefin Wyn o Maenclochog. Bu Hefin yn son am y daith gerdded wnaeth yntau ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro llynedd ( taith o 186 milltir ) ac am y cymeriadau gyfarfu ar y ffordd. Cyhoeddodd lyfr diddorol o’r enw Pentigili sy’n croniclo’r daith yn gelfydd iawn. Cafwyd noson hyfryd yn ei gwmni a diolchwyd i Hefin am noson ddiddorol gan Robert James. Cynhelir y ginio blynyddol yn nhafarn yr Oen, Llanboidy ar nos Wener, Ionawr 22ain – rhowch eich enw i Henry Morris cyn gynted a phosib os gwelwch yn dda.