Yng nghyfarfod mis Hydref, croesawodd Mr. Ithel Parri Roberts y gwr gwâdd, sef Mr. Wyn (Tegryn) Evans, Clunderwen i roi anerchiad. Cafwyd crynodeb o’i fywyd a’r alcoholiaeth y mae, erbyn hyn, wedi ei drechu. Hoffem ddiolch iddo am ei onestrwydd a’i ddewrder i fedru siarad a rhannu ei brofiadau ac fel yr oedd bron a chwalu ei fywyd. Atebodd nifer o gwestiynau a ofynnwyd iddo gan yr aelodau a dywedodd ei fod yn barod i helpu unrhyw un sy’n dioddef o’r cyflwr hwn. Diolchodd Mr. Mel Jenkins iddo ar ddiwedd y cyfarfod.noson llawn hiwmor yn ei gwmni. Diolchwyd i Huw am noson hyfryd gan Huw Griffiths.