Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill, fel arfer, yn lolfa y Clwb Rygbi. Croeshawyd yr aelodau gan y Cadeirydd Claude James. Huw Davies, un o’n aelodau ffyddlon oedd ein siaradwr gwadd mis yma ond yn anffodus, oherwydd anffawd, nid oedd yn bosib iddo ymuno â ni. Dymunwyd gwellhad buan i Huw gan obeithio cawn gyfle tymor nesaf i’w wahodd i siarad â ni.
Ar fyr rybudd, fe ddaeth Verian Williams ein ysgrifennydd, i’r adwy a chafwyd noson hwylus iawn yn ei gwmni. Yr hyn oedd gan Verian yn syml oedd hiwmor. Fe ddaeth â llawer o lyfrau o dan y pennawd hiwmor – Hiwmor Ifan Tregaron, Hiwmor y Pregethwr, Hiwmor Idris Charles, Hiwmor Sir Gâr i enwi dim ond rhai. Y dasg roddwyd i’r aelodau oedd dewis un o’r llyfrau, cael gafael ar jôc a’i dweud o flaen pawb. Cafwyd noson llawn hwyl a chwerthin a diolchwyd i Verian am noson gartrefol a gwreiddiol. Cafwyd amser a rhai manylion o’r daith ddirgel f lynyddol sydd i’w chynnal ar ddydd Iau, y 1af o Fai. gan Mel Jenkins, y Trefnydd Adloniant. Yn anffodus, nid oedd y Clwb Rygbi wedi cadw ystafell breifat i’r cyfarfod mis hwn ac o’r herwydd, penderfynwyd edrych am leoliad arall ar gyfer y tymor nesaf ym mis Medi.