Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill ar nos Iau y 7fed, fel arfer yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.
Cyn dechrau, cafwyd munud o dawelwch i gofio eto am drueiniaid Wcrain.
Y siaradwr gwadd oedd Vernon Beynon, Bwlch-y-ddwy-Sir, Llandysilio (gynt o Fferm y Cross).
Teitl ei gyflwyniad yn bennaf oedd ‘Cymeriadau Bro ei Febyd’ – y bobl ‘roedd yn eu hadnabod pan yn blentyn ac yn ifancach adref ar y fferm. Un o’r rhai mwyaf adnabyddus wrth gwrs oedd Waldo Williams, a oedd yn gymydog a ffrind agos i deulu fferm Y Cross.
Cafwyd hanes lu o gymeriadau ganddo a saff dweud bod mwy o chwerthin iach wedi bod yn y cyfarfod hwn nag mewn un cyfarfod arall. Cyn gorffen cafwyd ei hanes pan fu’n joci, a’r rhasus fu’n cymryd rhan ynddynt, hwn eto yn ddiddorol iawn. Noson arbennig a diolchwyd i Vernon gan Wyn Evans.