Cyfarfu’r Hoelion ar nos Fercher,; Ebrill 30ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Nigel Vaughan cyn iddo gyflwyno a chroesawu’r cwr gwadd sef y Prifardd Dylan Iorweth o Alltyblaca. Testun ei araith oedd bedd argraffiadau a chafwyd nifer fawr o enghreifftiau ganddo,; yn amrywio o gwpledi i englynion. Esboniodd fod hyn yn arferiad ac yn draddodiad poblogaidd iawn yng Nghymru a bod llawer o enghreifftiau o gwpledi ac englynion i’w gweld mewn mynwentydd ar hyd a lled ein gwlad. Diolchwyd i Dylan gan Huw Griffiths ac ategwyd hyn gan Eurfyl Lewis.
Eurfyl Lewis, Ken Thomas, Nigel Vaughan ac Henry Morris yng nghwmni gwr gwadd mis Ebrill sef y Prifardd Dylan Iorweth o Alltyblaca.