Cynhaliwyd chweched cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Ebrill 24ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lyn Howells cyn iddo groesawu gwr gwâdd y noson sef Dyfed Elis Gruffydd o Llechryd. Bu Dyfed yn sôn am ei ddiddordeb mawr mewn daeareg, mae’n wir i ddweud bod yntau’n arbenigo yn y maes. Testun ei sgwrs oedd Abaty Llandudoch, patrwm hynod y cerrig sydd wedi eu gosod ar y muriau a’r cysylltiad agos gyda Abaty Tiron yn Ffrainc. Sefydlwyd Abaty gan fynachod Urdd y Tironiaid yn Llandudoch 900 mlynedd yn ôl ac erbyn heddiw Cadw sy’n gyfrifol am warchod yr adfeilion. Cafwyd noson ddiddorol yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Nigel Vaughan. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ôl ei arfer. Eisteddfod Blynyddol Cynhaliwyd yr Eisteddfod flynyddol yng nghlwb rygbi Aberaeron ar nos Wener, Ebrill 12fed. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos rhwng canghennau Beca, Cors Caron, Hendy Gwyn a Sion Cwilt. Llongyfarchiade i Gwyndaf Evans ar ennill ar y gystadleuaeth dweud jôc ac i Tudur ac Eurfyl Lewis ar ennill y ddeuawd ddoniol. Enillodd cangen Cors Caron ar yr holl gystadlaethau gwaith cartref, dyma’r tro cyntaf erioed i un cangen gyflawni hyn – llongyfarchiade mawr iddynt ar eu camp! Uchafbwynt y noson i aelodau Beca oedd gweld Huw Griffiths yn ennill tlws am y perfformiad gorau ar y llwyfan – a hynny am arwain côr y gangen. Da iawn ti Huw, dal ati! Bydd Eisteddfod 2014 yng ngofal cangen Hendy Gwyn, rydym yn edrych mlan yn eiddgar amdani!