Croesawodd y Cadeirydd y wraig wâdd, sef Dr. Betsan Thomas (merch Mr. Anthony Thomas) a chafwyd hanes cyflawn o’r amser y bu’n gweithio yn Ysbyty Royal, Perth, Awtralia. Treuliodd flwyddyn a hanner yn Awstralia a bu’n gweithio gyda’r ‘Aboriginies’ hefyd yng ngogledd y wlad. Diolchodd Mr. Verian Williams iddi am yr hanes diddorol, Ar Fai 23ain, mae Betsan yn rhedeg Marathon Caeredin i godi arian at Cancr y Fron. Penderfynwyd rhoi £100 iddi tuag at yr Apêl.