Un o’n haelodau ni fu yn ein diddori ym mis Mawrth. Er nad yw yn un mawr o ran maint, mae ei dalent yn enfawr! Ie, Ken Mot. Mae’n well bod yn barchus wrth ei gyfarch fel Mr Ken Thomas, oherwydd ef yw ein Trysorydd gwerthfawr (neu falle bydd yr aelodaeth yn codi! Cafwyd noson ddiddorol tuhwnt yn ei gwmni a jiw, jiw, wedd e’n rhad! Diolchwyd iddo gan Huw Griffiths, gydag urddas.