Ar Ebrill 24ain, cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Cymdeithas yr Hoelion Wyth yng Nghaffi Beca,
Efailwen. Croesawyd pawb gan un o aelodau cangen Beca sef Eurfyl Lewis i’r caffi ar ei newydd wedd a chyflwynodd y llywydd Cenedlaethol, John Jones o gangen Cors Caron a oedd yng ngofal y noson. Cyflwynodd John y gwesteion sef Merched Soar o ardal Tregaron gan olrhain ychydig o’u hanes – yn wreiddiol eu bwriad oedd cystadlu unwaith yn unig i gefnogi Eisteddfod flynyddol Tregaron, ond roeddent wedi mwynhau’r profiad gymaint fel y penderfynwyd parhau ac mae pawb mor falch o hynny, gan eu bod bellach yn diddanu gwahanol sefydliadau ledled Ceredigion a thu hwnt. Yn ogystal maent wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r ŵyl Ban Geltaidd yn ddiweddar.
Cafwyd cyngerdd o’r radd flaenaf, ac mae ambell I eitem gerddorol fel ‘Strydoedd Aberstalwm’ a ‘Taflu’r dis’ yn ogystal â’r sgetsys doniol yn mynnu aros yn y cof.
Yn ystod yr egwyl gwahoddodd John, Calfin Griffiths o gangen Sion Cwilt ymlaen i gyflwyno Llywydd y noson, sef Mrs Wendy Jenkins o Aberaeron. Wendy yw Llysgennad rhanbarthol Aren Cymru. Bob blwyddyn mae’r Hoelion Wyth yn cynnal eu cyngerdd gyda’r bwriad o gyflwyno rhan helaeth o’r elw tuag at achos da. Yn y gorffennol mae mudiadau megis Prostad Cymru, Tir Dewi, Bad Achub Cei Newydd, Ysgol Gymraeg Trefelin, Yr Ariannin, Cylchoedd Meithrin ac eraill wedi elwa o’u haelioni.
Eleni Aren Cymru oedd yn derbyn yr arian a chafodd mab Wendy, Gethin aren ei fam yn dilyn ei salwch. Mae Gethin yn chwarae rygbi i Glwb Aberaeron, ac yn dilyn y driniaeth, roedd e nôl ar y maes ymhen 3 mis yn helpu ei dîm i gipio’r bencampwriaeth ac ennill dyrchafiad.
Cafwyd araith wych gan Wendy a rhodd hynod o hael tuag at yr achos. Hefyd yn ystod ei chyflwyniad dangoswyd llun iddi a oedd wedi ennill llun y flwyddyn a’i arddangos ym mhencadlys rygbi Lloegr yn Twickenham. Eiddo Gerallt Davies, Pantswllt yw’r llun ac mae’n cael lle parchus yn ei gartref. Beth yw’r llun? – llun o Gethin yn synfyfyrio adeg egwyl pan oedd yr hyfforddwr yn rhoi cyfarwyddiadau. Beth oedd ar ei feddwl tybed? Yn amlwg nid oedd yn canolbwyntio ar neges yr hyfforddwr, a dyma oedd y llun buddugol. Diolch i Gerallt am ei fenthyg am y noson.
Hefyd yn ystod yr egwyl tynnwyd y raffl fawr. Diolch arbennig i Calfin am yr holl drefniadau ac i’r holl noddwyr am eu gwobrau hael. Tynnwyd raffl y noson hefyd, a diolch i Eurfyl am y trefniadau ac am gasglu’r gwobrau.
Barn unfrydol y dyrfa luosog ar y diwedd oedd bod y noson yng nghwmni Merched talentog Soar wedi bod yn un gofiadwy. Cawsom ein gwefreiddio ganddynt. Cynigiwyd y diolchiadau gan Eurfyl Lewis A diolchwyd yn arbennig i Robert, perchennog Caffi Beca am y croeso. Ie, noson arall fythgofiadwy oedd hon.
Cyhoeddir y swm y byddwn yn ei chyflwyno i Aren Cymru yn fuan ar ôl i’r swyddogion gyfarfod.
Bydd y cyflwyno’n digwydd yn Nhafarn Ffostrasol, a chyhoeddir hynny ar y dudalen hon cyn hir.
