Ar Nos Fawrth yr 8fed o Ebrill, cynhaliwyd cyfarfod Cenedlaethol yr Hoelion Wyth yn Nhafarn Ffostrasol.
Cyn cychwyn, cafodd John Jones, Cadeirydd y gymdeithas y pleser o gyflwyno siec o £2,000 i Prostad Cymru.
Yr arian yma oedd elw’r raffl fawr flynyddol a drefnir gan yr aelodau a’r gyngerdd a gynhaliwyd yng Ngwesty Emlyn, Tanygroes ddiwedd Tachwedd 2024, pan ddaeth parti arbennig ‘Pam Lai’ i’n diddanu.
Ar ran Prostad Cymru, daeth Mr.John Daniels a Mr.Jonathan Lewis i dderbyn y siec.
Wrth ddiolch, soniodd John am holl waith yr elusen a’r hyn maent wedi ei wneud ers 2012 i greu gwell adnabyddiaeth o’r clefyd peryglus yma sy’n effeithio ar un o bob saith o ddynion..
Fel nifer o glefydau eraill, os caiff ei ddarganfod yn gynnar, mae’r gyfradd gwella’n llwyr yn uchel iawn.
Ar hyn o bryd, gwahanol ganolfannau, drwy gymorth cefnogaeth mudiadau fel yr Hoelion Wyth, mae i fyny at 400 o ddynion yn medru cael eu sgrinio mewn diwrnod, ac o ganlyniad, gall fod rhwng 15 ac 20 yn dioddef o’r clefyd heb fod yn ymwybodol o hynny.
Rydym mor ddiolchgar i Mr.John Daniels a Mr.Jonathan Lewis am eu holl waith gwirfoddol er lles y rhai sy’n dioddef.
Yn y llun gwelir John Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cyflwyno’r siec i John Daniels a Jonathan Lewis, ar ran Prostad Cymru. Hefyd yn y llun mae Nigel Vaughan ( trysorydd ), Geraint Morgan ( ysgrifennydd ), Wmffre Defis ( is gadeirydd ) ac Eurfyl Lewis ( llywydd ).
