Canon Aled Williams
Croesawodd y Gangen wyneb cyfarwydd, uchel ei barch, sef y Canon Aled Williams, yn ôl i’r ardal ym mis Hydref.
Mae’r Canon Aled yn enedigol o Bontypridd ond ar ddechrau’r 1980au fe symudodd i blwyf Llanddewi Brefi lle bu’n gwasanaethu am ugain mlynedd. Mae bellach yn byw yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin.
Yn ogystal â’i ddyletswyddau bugeiliol, mae’r Canon Aled yn awdur, cerddor, seiclwr a dilynwr rygbi brwd. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Carreg Milltir, yn 2017.
Cawsom gyflwyniad hynod ddiddorol ganddo am hanes Coleg Edward Richard, Ystrad Meurig. Sefydlwyd y coleg yn 1734 gan Edward Richard gyda’r nod o gynnig addysg yn y clasuron, yn ogystal ag addysg elfennol, i fechgyn yr ardal. Aeth nifer o’r disgyblion ymlaen i fod yn glerigwyr, meddygon ac arweinwyr blaenllaw yn eu cymunedau.
Edrychwn ymlaen at gyhoeddi ei lyfr ar Goleg Edward Richard yn y dyfodol agos.