HOELION 8 CORS CARON
———————————
Cyfarfodydd Rhagfyr 2019 a Ionawr 2020
———————————————————-
Ein gwr gwadd yn ein cinio Nadolig blynyddol yng ngwesty’r Talbot oedd y darlledwr Eifion Glyn.Daeth Eifion i amlygrwydd ar y rhaglen boblogaidd ‘YByd ar Bedwar’ ,yn enwedig gyda’i ymweliadau a’r gwledydd oedd yn dioddef yn sgil rhyfel ,megis Syria,ac yntau’n mentro i’r mannau mwyaf peryglus lle’r oedd swn y gwn a’r bom yn cael eu clywed yn gyson,ac heb amheuaeth ei fywyd mewn perygl wrth iddo sicrhau cael y newyddion diweddaraf o faes y frwydr.
Gwr o Benygroes,Caernarfon yw Eifion yn wreiddiol ond bellach yn byw ym Mhentyrch ar gyrion Caerdydd. Yn ogystal a’i hanes ar y cyfryngau,cafwyd ganddo hanes difyr ei ddyddiau ysgol,coleg a’i swydd gyntaf gyda’r Urdd cyn symud at ‘Y Cymro’.
Phil Thomas,y fet oedd gwestai Cyfarfod cyntaf 2020. Gwr o Aberystwyth,bellach yn byw’n Llandre sydd wedi dod i amlygrwydd Cenedlaethol yn ddiweddar yn sgil y rhaglen deledu am fywyd milfeddygon. Olrheiniodd Phil gychwyn milfeddygaeth,o’r coleg cyntaf i gael ei sefydlu hyd heddiw. 4 myfyriwr oedd ar y cychwyn a phan gychwynodd e byd y dynion oedd y swydd,ond bellach mae llawer mwy o ferched na dynion yn filfeddygon. Dyma noson ddifyr arall, ac addysgiadol tu hwnt.
Mae ein cangen yn hynod ffodus o gael siaradwyr arbennig o fis o fis,ac yn sicr roedd Eifion Glyn a Phil Thomas yn perthyn I’r categori yna.Diolch iddynt am eu cyfraniadau cyfoethog i ddau gyfarfod cofiadwy.