Cyfarfu John Owen a nifer o drafferthion a phroblemau ar hyd y daith ond diolch am ei weledigaeth a’i fenter, ac i’w gyfoedion am ei llafur di-flino. Mae’n amlwg ei fod yn penderfynol a di-ildio ac wedi dyfal barhau hyd yr eithaf i oresgyn yr holl rwystrau ddaeth i’w wynebu. Flwyddyn yn ddiweddarach, cymerwyd y lein drosodd gan Great Western Railways a bu farw John Owen yn ystod yr un flwyddyn. Daeth Beeching â’i fwyell a chauwyd y lein yn 1962. I gyd fynd â’r hanes diddorol hyn dangosodd Emyr ffilm fer o daith ola’r Cardi Bach