Croesawyd yr aelodau nôl i flwyddyn arall o weithgareddau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans. Cyflwynodd ein siaradwr gwadd sef Cleif Harpwood sy’ bellach yn byw ym Moncath ac yn adnabyddus i bawb fel cyn prif-leisydd y band roc Edward H Dafis.
Hanes ei fro mebyd sef ardal Cwmafan oedd y testun. Yn gyntaf dangosodd fap oedd yn dyddio ‘nôl i’r trydedd ganrif ar ddeg oedd yn dangos rhanbarth Afan rhwng rhanbarthau Nedd a Margam, Erbyn hyn mae’r rhanbarth wedi uno ac ehangu. Mae’r cwm yn ymestyn o’r mor yn yr Aberafon presennol i fynni tuag at Ponrhydyfen ac yma yn troi i’r dwyrain i gyfeiriad Cymer. Yr unig gwm yn ne Cymru sy’n mynd o’r Gorllewin i’r Dwyrain yn hytrach na’r Gogledd i’r De.
Ar ôl y cyfnod Normanaidd, melinau gwlân oedd prif ddiwydiant y cwm gyda tua 300 o drigolion yn byw yno. Gydag amser dechreuodd diwydiannau trymach megis cloddio am lo ac mwyn gloddio am haearn a chopr. Cwmafan oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i’r cwmni byd enwog Rio Tinto fwyn gloddio yno. Aeth poblogaeth yr ardal i fyny i 3500 dros ugain mlynedd yn ystod y cyfnodau yma ond dinistriwyd yr amgylchfyd a dŵr yr afon.
Cawsom hanes bardd o’r bymthegfed ganrif sef Ieuan Gethin a drigai ym Maglan yn y a darllenwyd rhai o’i gerddi, un cerdd oedd yn cyhuddo ei gymydog o ddwyn ei fêl ac un arall oedd ar ffurf cais cynllunio at Esgob Llandaf.
Soniodd hefyd am Richard Lewis – neu Dic Penderyn (Penderyn gan mae Penderyn oedd enw ei gartref ac nid y pentref Penderyn yng Nghwm Cynon) Cafodd ei grogi ar gam ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn ystod terfysg Merthyr. Claddwyd ym mynwent yr Eglwys Santes Fair ger Aberafon. Nid oedd yn arferol i rhywun oedd wedi ei ddienyddio gael ei gladdu mewn mynwent sanctaidd ond roedd hyn yn eithriad i’r rheol.
Darllenodd ambell bennill ddigri oedd wedi tarddu o’i ardal enedigol hefyd. Cyn gorffen talodd deyrnged i’w hen gyfaill a’i gyd-aelod o’r band Edward H Dafis sef Dewi Pws Morris a bu farw yn ddiweddar. Roedd tri aelod o’r band yn hanu o ardal Cwmafan sef Cleif, John Griffiths ac Hefin Elis.
Cawsom noson hwylus a difyr yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

