Croesawyd yr aelodau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans a cyflwynodd ein siaradwraig wadd sef Elen Davies o Rhydargaeau. Cafodd Elen ei magu ym Mhencader a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Caer Felin, cyn mynd ymlaen i Ysgol Dyffryn Teifi. O fan honno, aeth i astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio fel un o ohebwyr y Gorllewin i BBC Cymru erbyn hyn, yn bennaf ar draws blatfformau newyddion Cymraeg BBC Cymru, felly Radio Cymru, rhaglen Newyddion S4C a gwefan Cymru Fyw.
Yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, enillodd hi wobr ‘Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru, profiad wnaeth heb os agor y drws i fyd gwaith a’r byd darlledu.
Ei swydd gyntaf oedd fel Newyddiadurwr dan Hyfforddiant yn ITV Cymru, yn creu cynnwys newyddion i bobl ifanc ar blatfform digidol Hansh. Esboniodd bod hyn yn dipyn o her gan fod pobl yn meddwl am y newyddion fel rhywbeth trwm, diflas a difrifol. Y gamp felly oedd trio gwneud straeon y dydd yn apelgar i bobl ifanc. Swydd ‘dan hyfforddiant’ oedd hwn, ac roedd hi’n dysgu ar y job fel petai! Mae edrych nôl ar y cyfnod hyn yn gwneud iddi sylweddoli gymaint wnaeth hi ddysgu.
Cafodd swydd barhaol fel Newyddiadurwr yn ITV Cymru a hynny ar raglen y Byd ar Bedwar – rhaglen materion cyfoes. Ymysg rhai o’r pethe bu’n gwneud ar Y Byd ar Bedwar oedd gweithio fel newyddiadurwr cudd, neu ‘undercover reporter’ mewn cartref gofal yn y Gogledd, wedi pryderon am y lle. Fe wnaeth y rhaglen arwain at drafodaeth yn y Senedd.
Ar ôl cyfnod ar Y Byd ar Bedwar, cafodd ei swydd gohebu cyntaf ar raglen wleidyddol Y Byd yn ei Le, S4C gyda Guto Harri. Ei swydd oedd casglu barn y bobl bob wythnos a bydde hi’n mynd â chadair y Byd yn ei Le i ryw ddigwyddiad, fel Hoelion Wyth, Merched y Wawr neu farchnad i gasglu barn y bobl ar bwnc yr wythnos hwnnw.
Ar ol Covid, cafodd Elen swydd fel un o Ohebwyr y Gorllewin gyda’r BBC gan weitho mas o’r swyddfa yng Nghaerfyrddin. Mae wedi bod yno ers bron i dair mlynedd erbyn hyn, gan gydweitho gyda Aled Scourfield a Sara Dafydd. Cawsom esboniad manwl gan Elen o beth yw ei diwrnod gwaith arferol a sut mae’n mynd ati i gasglu cyfweliadau, rhoi deunydd at ei gilydd, ysgrifennu erthyglau, gwneud y darllediadau radio a pecynnau teledu.
Dywedodd bod y swydd yn lot fawr o sbort ond eto, gallu bod yn un difrifol iawn, felly mae’n bwysig cael y balans, a dysgu sut i switsho bant.
Cafwyd cyfle i holi nifer o gwestiynau i Elen ar ddiwedd ei chyflwyniad gwych a cawsom noson hwylus a difyr iawn yn ei chwmni. Diolchwyd iddi gan Eifion, diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

