Skip to content

Cyfarfod Hydref 29ain 2025

    Croesawyd yr aelodau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans a chyflwynodd ein siaradwraig wadd, sef Hedydd Hughes o ardal Pencaer, Abergwaun.

    Tafodiaith a threftadaeth oedd testun ei chyflwyniad a dechreuodd drwy adrodd ychydig o’i hanes, ei gyrfa fel gweithiwr banc am sawl blwyddyn cyn mynd i brifysgol i gael gradd a gwneud ymarfer dysgu. Wedi hynny bu’n dysgu yn y ganolfan Iaith yn Abergwaun am rai blynyddoedd.

    Daeth â llawer o waith crefft i’w harddangos, – gwaith roedd hi ei hunan wedi ei greu, sef penglog y Fari Lwyd, tŷ’r dryw bach a model o hen fwthyn. Cawsom hanes a chlywed gwaith y bardd Idwal Lloyd, a chlywed  geiriau i’r gân sy’n gysylltiedig â’r Fari lwyd. Bu’n sôn am hela’r dryw, a’n diddori â chân am Geiliog Beti gyda help y ‘squeeze box’. Adroddodd ran fawr o’r gerdd Pwll Deri gan Dewi Emrys, sydd fel gwaith Idwal Lloyd, wedi ei hysgrifennu yn y dafodiaith leol.  Hefyd cyflwynodd ychydig o hanes y cymeriad o Wdig,  Shemi Wad (James Wade) y storïwr celwydd golau enwog bu fyw yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Un o hoff bethau Shemi oedd cnoi baco a sefyll rhwng y ddau dafarn yng Ngwdig yn adrodd storiâu i bobol oedd ar fin mynychu’r tafarn, mewn gobaith y cai ddiod am ddim am ei stori.

    Cawsom noson hwylus a difyr iawn yng nghwmni Hedydd a diolchwyd iddi gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

    Hedydd yn canu am Geiliog Beti

    Hedydd yn adrodd darn o Pwll Deri

    Hedydd gyda’r swyddogion