Croesawyd pawb i gyfarfod mis Hydref o Hoelion Wyth Beca gan Eifion Evans y cadeirydd. Fe wnaeth groesawu aelod newydd i’n plith, sef Julian Williams, cyn cyflwyno’r siaradwr gwadd sef neb llai na perchennog Caffi Beca, Robert James neu Rob Caffi Beca. Pleser oedd gwrando arno yn adrodd ei hanes, o ddydd ei eni hyd at y dydd presennol. Cafodd ei eni ar Fferm Penrallt ger Capel Colman yn Boncath. Mynychodd ysgol gynradd Manordeifi, ysgol y Preseli ac yna ymlaen i Goleg addysg uwch yn Aberteifi. Er ei fod yn helpu adref ar y fferm, coginio oedd ei hoff ddiddordeb, a’i fam yn ei annog i geisio gwneud gyrfa o wneud hynny.
Yn gyntaf, aeth i weithio gyda Ken Davies y cigydd yn Aberteifi i ddysgu sut i dorri cig, cyn mynd i weithio mewn gwesty yn Walwyn Garden City, ger Watford ac yna yn Maidstone. Ar ol dod adref, cafodd gyfle gan ei Wncwl Dewi ( Glandy Cross ) i brynu Caffi Beca yn 1993, cam mawr yn ei fywyd.
Roedd agnen llawer o waith i’w wneud ar y caffi gan gynnwys codi estyniad er mwyn cael cynnal te angladdau a nosweithiau cymdeithasu yno. Tua pum mlynedd nol, penderfynodd bod angen caffi mwy o faint, roedd hyn yn gam mawr arall yn ei fywyd. Dymchwelwyd yr hen gaffi a chodwyd adeilad newydd. Agorwyd y palas newydd yn ystod gwanwyn 2025.
Mae’n cyflogi a rhoi gwaith i bobol lleol ac yn prynu bwyd yn lleol hefyd. Mae’n dal i wneud llawer o waith y gegin yn yr hen ffordd, sef crafu tato a’i sleiso yn sglodion gyda dwylo, sydd yn llawer o waith pan mae angen dros 3 sached o dato y dydd!
Mae’n amlwg bod Robert yn hoffi sialens – bu’n cystadlu yn yr “Iron Man” lle roedd rhaid iddo nofio, seiclo a rhedeg ond roedd yn casau dwr. Ar ol ychydyg fisoedd o ddysgu nofio, fe wnaeth nofio rhan o’r cwrs yn Dinbych y Pysgod, yn anffodus methodd gwpla gan ei fod wedi rhedeg mas o amser.
Diolchwyd i Robert am noson ddiddorol iawn a diolchwyd iddo gan Eifion. Mwynhawyd basned o gawl blasus ar y diwedd, diolch i Robert am ei groeso arferol.

