Croesawyd yr aelodau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans a chyflwynodd ein siaradwraig wadd sef Y Parchedig Sian Elin Thomas o Crymych. Profiadau menywod yn y weinidogaeth oedd testun y noson. Dangosodd glip o un o gyfresi Vicar of Dibley pan oedd Geraldine y ficer newydd yn cyrraedd y plwyf ac yn cael ei chyflwyno i’r plwyfolion. Roedd yr ymateb tuag at ddyfodiad benywaidd yn un eithaf cyffredin i ymateb rhai tuag at ferched yn y weinidogaeth heddiw yn ôl Sian Elin.
Cafwyd hanes arloeswyr benywaidd cynnar yng Nghymru sef Sara John Rees neu Cranogwen a oedd yn siaradwraig gyhoeddus galluog mewn cyfnod pan nad oedd yn arferol i fenywod draddodi. Roedd yn aml yn derbyn tipyn o gwrthwynebiad wrth bregethwyr gwrywaidd wrth siarad o’r pulpud ond roedd yn hynod poblogaidd gyda’r gynulleidfa.
Arloeswraig arall oedd Rahel o Sir Fôn neu Rachel Davies a bu fyw o 1846 tan 1915. Pan yn ifanc roedd yn byw ym Mrynsiencyn a dechreuodd bregethu gyda’r Bedyddwyr. Erbyn y flwyddyn 1865 daeth yn adnabyddus iawn fel darlithwraig a phregethwr a wnaeth greu tipyn o anniddigrwydd ymysg y Bedyddwyr ar y pryd. Yn 1866 ymfudodd i fyw yn America a hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei ordeinio i’r weinidogaeth yn nhalaith Wisconsin, U.D.A. Yno priododd ddyn oedd yn wreiddiol o Dregaron o’r enw Edward Davies a chawsant un mab o’r enw Joseph. Daeth Joseph yn enwog fel cyfreithiwr ac fe oedd yr ail lysgennad yr Amerig yn Rwsia. Ail briododd gwraig o’r enw Marjorie Merrweather Post yn 1935, menyw oedd yn cael ei ystyried yn un o’r rhai cyfoethogaf y wlad. Roedd ganddi dŷ mawr (plasty) yn Palm Beach Florida o’r enw Mar-a- Lago. Erbyn hyn mae’r adeilad yn un o gartrefi Donald Trump.
Ychydig o hanes Sian Elin cawsom wedyn, Mae hi’n un o dair chwaer, ac yn blant i’r diweddar Ann a Vernon Rees. Mae theulu ei mam o ardal Y Ferwig a theulu ei thad o ardal Boncath. Priododd â Dylan – mab un o aelodau Cangen Beca (Ken) yn Nghapel Siloam, Y Ferwig ac mae ganddynt dau fab. Buodd yn weithgar gyda’r aelwyd yr Urdd yn Nghrymych yn canu, actio ac fel arweinydd.
Yn dilyn gyrfa gwaith gweinyddol a cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd penderfynodd Sian Elin fynd i bregethu yn 2017. Mae’n cofio treulio oriau ac oriau yn paratoi pregeth cyn ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Nghapel Penybryn. Hefyd yn 2017 aeth fel myfyrwraig rhan amser i Goleg y Bedyddwyr Caerdydd lle bu yr Athro Barchedig Densil Morgan a’r Athro Barchedig Rosa Hunt yn ddylanwad arni. Cafodd llawer o gymorth ac anogaeth hefyd gan y Parchedigion Beti Wyn James ac Irfon Roberts.
Ordeiniwyd yn Nghapel Y Graig, Castellnewydd Emlyn ac Ebeneser Cemaes yn 2021 ac ers 2023 mae hefyd yn weinidog ar gapel Penybont, Llandysul gan greu Gofalaeth Bro Cemaes Dyffryn Teifi. Yn ychwanegol i’r ofalaeth mae Sian Elin hefyd yn Gaplan ar Gartref Gofal y Bedyddwyr Glyn Nest. Cyn iddi orffen dangosodd glip ffilm o Aelwyd Yr Urdd Crymych yn Canu ‘Gobaith yn y tir’ yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2003. Pwysleisiodd y bod yn rhaid cael gobaith yn enwedig yn yr oes lle mae crefydd ar drai.
Cawsom noson hwylus a difyr iawn yng nghwmni Sian Elin a diolchwyd iddi gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.