Croesawyd yr aelodau nol ar ddechrau tymor arall, ar nos Fercher, Medi 30ain, yn dilyn seibiant dros yr haf, a hynny gan ein cadeirydd Eifion Evans.
Gwnaeth ef hefyd groesawu tri aelod newydd i’n plith sef Denzil Davies, Huw Owens a Hywel Wyn Jones, cyn cyflwyno’r siaradwr gwadd sef Tomos Lewis (gynt o Llanglydwen).
Cynllunio a chreu cadair Eisteddfod Y Garreg Las oedd ei destun ac esboniodd Tomos yr holl broses i ni o’r dechrau, pan roddodd gais mewn i swyddogion yr Eisteddfod, ar gyfer hyn. Bu rhaid iddo gyflwyno ei syniadau am gynllun y gadair a cyflwyno rhain i banel o bobol mewn cyfweliad swyddogol. Roedd wrth ei fodd pan ymddiriedwyd y gwaith iddo ac aeth ati ar unwaith i greu cynllun pendant er mwyn i rai o aelodau yr Orsedd i’w ystyried. Roedd ei syniadauy yn cynnwys gosod tri darn o bren gyda’u gilydd ar gefn y gadair, gan taw dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod gynnwys tair Sir o fewn dalgylch yr Eisteddfod, gosod amlinelliad o fynyddoedd y Preseli ar dop y gadair a creu dwy iet fel ochrau i’r gadair – hyn yn cynrychioli Terfysg Beca a’r ffaith bod gymaint o iete ar lwybr arfordir Parc Cenedlaethol Sir Benfro.
Y cam nesaf oedd cael coed derw ar gyfer y gadair a gan taw Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro oedd yn noddi’r gadair, cafodd Tomos gyflenwad o goed o’i canolfan yng Nghilredyn, Cwm Gwaun.
Dechreuodd ar y gwaith yng ngweithdy Ysgol Caer Elen ym mis Chwefror, ond cyflawnodd rhan fwyaf o’r creu yn siop waith ei Wncwl Huw yn Glandy Cross, lle bu wrthi am oriau dibendraw yn ystod gwyliau’r Pasg.
Cafodd gymorth gan y canlynol – Mathew Williams, oedd yn berchen ar beiriant oedd yn gallu”sando” coed mewn llai nag awr; Des Davies wnaeth ddarparu 3 darn o garreg las; Wayne Mason oedd yn berchen ar beiriant oedd yn gallu creu amlinelliad o fynyddoedd y Preseli; Rhidian Jones oedd yn berchen peiriant oedd yn gallu gwneud y gwaith ysgythru; WPS Upholstery wnaeth osod y glustog ar y gadair.
Roedd yn ddiolchgar i bawb o’r uchod, yn ogystal a’i Wncwl Huw a’i frawd Ifan am eu cymorth a’u cyngor doeth.
Cafodd y gadair ei dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig yn Oriel y Parc, Tyddewi ym mis Mehefin a cafodd dderbyniad ac ymateb ffafriol gan bawb. Dywedodd Tomos bod hi wedi bod yn fraint aruthrol iddo gael cynllunio a chreu’r gadair a bu hefyd yn fraint iddo fe a’i frawd gael ei chario o’r Maen Llog i lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod yn ystod y seremoni agoriadol.
Holwyd nifer o gwestiynau I Tomos ar ddiwedd y cyflwyniad a diolchwyd iddo am noson arbennig iawn gan Eifion. Llongyfarchiadau mawr i Tomos ar gynllunio a creu campwaith o gadair.
Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu cawl blasus arferol ar ein cyfer.


