Yn absenoldeb ein Cadeirydd, croesawyd yr aelodau gan Eurfyl a chyflwynodd ein siaradwr gwadd, sef Owen Powell, Pant yr Ugen, Efailwen. Ganwyd Owen yng Nghaergrawnt yn 1967 pan oedd ei dad yn fyfyriwr yng Ngholeg St Ioan. Symudodd y teulu i ardal gogledd orllewin Manceinion a buont yn byw yno tan bod Owen tua chwech oed cyn symud i ardal Yr Eglwys Newydd, Caerdydd lle y mynychodd Owen ysgol gynradd Saesneg ei hiaith. Treuliodd ei dad gryn dipyn o amser yn gweithio dramor yn y cyfnod hwn a daeth i werthfawrogi pwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Bu hyn yn ddylanwad fawr a arweiniodd at benderfyniad ei rieni i roi addysg Gymraeg i Owen a’i frawd a’i symud i Ysgol Bryntaf yn Llandaf – yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf a sefydlwyd yng Nghaerdydd ac yna ymlaen i fod yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Uwchradd Gyfun Gymraeg Glantaf. Cyfaddefodd nad oedd yn academaidd a’i fod bron cael ei ddiarddel o’r ysgol ar sawl achlysur. Ond yno cafodd y cyfleoedd i berfformio ac ennyn ei ddiddordeb yn ei hoff beth, sef cerddoriaeth ac roedd yn chwarae gitâr ar bob cyfle.
Bu’n gweithio mewn sawl swydd ar ôl gadael ysgol, yn cynnwys gweithio mewn siop ‘sgidiau a bod yn was sifil i’r swyddfa treth ar werth. Tra yn blentyn roedd ei dad yn hoffi cerddoriaeth y Rolling Stones, Beatles a Jimi Hendrix ac roedd yn gwrando ar lawer o’r recordiau yma wrth dyfu i fyny. Bu’n aelod o fand pync U Tant ac wedyn ymunodd a’i frawd yn y band Crumblowers.
Newidiwyd bywyd Owen ar un nos Wener yn Rhagfyr 1995 pan ofynnwyd iddo ddysgu pedwar deg o ganeuon y band Catatonia erbyn fore Llun canlynol pan oedd i ymuno â nhw yn Fulham ar gyfer sesiwn recordio! Bu’n aelod, gitarydd a chyfansoddwr i’r band am chwe blynedd tan ddaeth y band i ben yn 2001. Un o’i hoff ganeuon iddo gyfansoddi i’r band oedd ‘Strange Glue’ a chafodd ei chanu’n hyfryd gan y prif-leisydd Cerys Mathews. Yn ystod y cyfnod, bu dau albwm o’u caneuon yn siartiau a buont yn teithio o gwmpas Ewrop, Yr Unol Daleithiau, Japan, Awstralia a Seland Newydd. Un o arwyr Owen yw’r gitarydd Rolling Stones, Keith Richards a chafodd Catatonia y profiad o gefnogi’r Stones mewn cyngerdd yn yr Iseldiroedd. Y gynulleidfa fwyaf niferus iddo berfformio o’i blaen oedd chwarter miliwn o bobol yn ‘Party In The Park’, Llundain.
Ers i Catatonia wahanu mae Owen wedi gweithio ar lawer prosiect cerddorol ac wedi cyfansoddi a rhyddhau miwsig o dan yr enw Don Ya Ya. Mae ganddo stiwdio fechan yn ei gartref lle mae’n byw gyda’i bartner Betsan.
Cafwyd cyfle i holi nifer o gwestiynau i Owen ar ddiwedd ei gyflwyniad gwych a chawsom noson hwylus a difyr iawn yn ei gwmni. Diolchwyd iddo gan Eurfyl ac Eifion Griffiths. Diolchwyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

