Cynhaliwyd y bymthegfed Cwis Wes Glei eleni yn ystod Gwyl Bro’r Preseli. Gwahoddwyd Gwyn Elfyn o Drefach,; Llanelli i ofyn y cwestiynau a chafwyd noson hwyliog iawn yn ei gwmni. O’r wyth tim fu’n cystadlu Hoelion Wyth Beca oedd yn fuddugol a chyflwynwyd iddynt darian her Cwmni Olew Trefigin a £50. Roedd elw’r noson yn mynd tuag at Daith Patagonia yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru. Bu dwy o ferched lleol sef Mari Llewelyn o Efailwen a Lisa Penfold yn mynychu’r daith ynghyd A Dafydd Vaughan o’r Fenter fu’n un o’r arweinyddion. Cyflwynwyd rhoddion i’r ddwy Ysgol Gymraeg yn y Wladfa drwy law Euros ac Eluned Jones. Diolch i bawb sydd wedi noddi a diolch yn arbennig i dim Hoelion Wyth Beca am gyflwyno gwobr y cwis tuag at yr achos.
Enillwyr y cwis gyda’r cwis feistr, Gwyn Elfyn, staff y Fenter a Llyr John o Gwmni Cware ac Olew Treffigin – noddwyr y darian.