Ein siaradwr gwadd mis Ionawr oedd y Prifardd Ceri Wyn. Cawsom ganddo sgwrs am wreiddiau geiriau gan ymhelaethu ar wahanol ddehongliadau idiomau a dywediadau mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.
Un o feibion galluog Tregaron ddaeth atom ym mis Chwefror sef Keith Bush QC. Cyn ddisgybl o ysgol Uwchradd Tregaron yw Keith ac wedi dringo i uchel swyddi yn y gyfraith. Rhwng 2007 a 2012 ef oedd prif gynghorydd cyfreithiol y Cynulliad, hefyd roedd yn aelod o’r gweithgor fu’n gosod sylfeini Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mis Mawrth tro ein cangen ni oedd cynnal yr Eisteddfod Ffug. Bu’n noson lwyddiannus yn y Talbot wrth i ni groesawu pedair o ganghennau eraill i gystadlu. Yn fonws ar y noson enillwyd tlws yr eisteddfod.
Gwestai mis Ebrill oedd John Jones, Landlord tafarn y Talardd Arms,Llanllwni. Disgrifiodd ei fagwraeth yng nghymoedd y De i deulu di- Gymraeg ac fel y daeth yn ymwybodol o’r iaith yn ystod ei ieuenctid. Noson hwyliog iawn wrth i John ddisgrifio’i helyntion fel athro gwaith coed.
I ddiweddu’r tymor ym mis Mai cynhaliwyd ein taith ddirgel flynyddol. Dechreuwyd yn blygeiniol tua’r De a phawb yn ceisio dyfalu pen y daith. Yn y diwedd cyrhaeddwyd safle Pwll Mawr, Blaenafon. Yno fe’n tywyswyd o dan y ddaear i weld man gweithio y glowyr. Profiad yw gofio oedd hwn, wrth i ni sylweddoli peryglon y gwaith o gloddio am lo.
Yna ymlaen am Benderyn gan fod tipyn o syched erbyn hyn! Yno caswom weld y broses o ddistyllu chwisgi Penderyn. Wrthgwrs rhaid oedd blasu’r hylif melyn gan brynu potel neu ddwy i gofio’r ymweliad.
Ar y ffordd adre cafwyd swper blasus yn nhafarn Y Talardd Arms.
Mae ein diolch i’r cadeirydd sef; Tudor Jones a’r ysgrifennydd; John Watkin am drefniadau’r daith.
Edrychwn ymlaen yn nawr at ddechrau tymor newydd ym mis Medi.