Gyda thristwch y cyrhaeddodd y newyddion am farwolaeth un o gewri’r Hoelion Wyth, sef John Davies ( John Y Graig ), yn 99 oed. Pe bai wedi cael byw am 6 mis arall, buasai wedi cyrraedd y 100 ar y 6ed o Fawrth 2025.
Roedd John yn un o gyd sylfaenwyr yr Hoelion nol yn y saithdegau, ac ef oedd llywydd y noson yng nghyngerdd dathlu’r hanner cant fis Tachwedd llynedd yn Nhanygroes. Yn ogystal a bod yn bresennol, cafwyd araith wych ganddo ar ddiwedd y gyngerdd, araith a fydd yn sefyll yn y cof.
Ddiwedd Ebrill eleni, roedd cangen Beca’n dathlu eu deugeinfed penblwydd, ac anfonodd John gyfarchion ar ran cangen Aberporth, ei gangen e.
Mae’n braf fod Cangen Beca
Yn cyrraedd deugain oed
A braf gweld bod ei hoelion
Mor ifanc ag erioed!
Roedd yn fynychwr rheolaidd yn y cyfarfodydd Cenedlaethol tan yn ddiweddar iawn. Roedd Oliver, ei ffrind agos , a mawr ei ofal ohono ‘n gofalu ei fod yn cyrraedd a mynd yn ddiogel, ac wrth gwrs roedd y gwydraid neu ddau o win coch y P15 yn rhan orfodol o’r noson bob tro’n Ffostrasol! Parchwyd ei farn gadarn a’i sylwadau craff ar bod achlysur.
Mae’r Gymdeithas wedi cychwyn arfer o anrhydeddu person am ei gyfraniad mewn maes arbennig yn ei fro, a hynny tra bod y person hwnnw gyda ni ar y ddaear hon. Gosodwyd plac ar wal ei gartref, a derbyniodd John yr anrhydedd honno am ei waith yn sefydlu’r Hoelion a’i gyfraniad amhrisiadwy am flynyddoedd maith dros y Gymdeithas.
O ystyried rhai o enwogion Cenedlaethol ein gwlad a dderbyniodd yr anrhydedd hon, megis Caradog Jones ( y dringwr), Delme Thomas ( y chwaraewr rygbi) a Dai Jones (Llanilar) i enwi ond 3, mae enw John Y Graig yn gorwedd yn gysurus yn eu plith.
Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu wrth I ni ffarwelio a’r hoelen loywaf yn ein Cymdeithas, un yn sicr na welwn mo’i debyg fyth eto.
John Jones (Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth)