Cynhaliwyd y Cinio Blynyddol yn y Carpenter’s Arms, Talacharn ar Nos Wener, Ionawr 15ed. Braf oedd cael cwmni gwragedd a phartneriaid yr aelodau ac estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y Cadeirydd, Claude James.
Ar ôl cael pryd rhagorol o fwyd, cyflwynodd y Cadeirydd y siaradwraig wadd, sef Einir Jones o Rydaman. Cafwyd anerchiad, yn llawn hiwmor, ar ‘Lysiau’. Mae Einir yn arbenigo yn y pwnc a gyda ffydd mawr, yn defnyddio llysiau gwyllt a blodau’r maes fel meddyginiaeth ac er mwyn cadw’r corff yn iach.
Tystiodd pawb eu bod wedi mwynhau’r noson; braf oedd cael cwmni gŵr Einir, sef Y Parchg John Talfryn Jones. Diolchwyd i Einir gan Ithel Parri Roberts a diolchodd y Cadeirydd i’r staff am y wledd ac i Mel Jenkins am drefnu’r noson. Mae’n diolch ni hefyd i’r cadeirydd am gynorthwyo Mel gyda’r trefniadau.
Einir Jones a’i gŵr John Talfryn gyda (o’r chwith):
Verian Williams, Ysgrifennydd; Mel Jenkins, Trefnydd Adloniant; Claude James, Cadeirydd; Dewi James, Trysorydd ac Ithel Parri Roberts, Cynrychiolydd ar y Pwyllgor Cenedlaethol.