Cynhaliwyd Cinio Blynyddol y gangen, Nos Wener, Ionawr 22ain yn Y Popty Hendygwyn. Ar ôl pryd blasus o fwyd croesawyd gŵr gwâdd y noson sef Mr Meurig James, Pengawse. Cafwyd araith bwrpasol ganddo fel arfer yn ogystal ag ambell stori ddoniol. Diolchwyd iddo gan y cadeirydd ac hefyd diolchwyd i Mel Jenkins am wneud y trefniadau.
Meurig James yng nghwmni Mel Jenkins, Dewi James a Wyn Evans a Verian Williams.