Skip to content

Chwefror 2026

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Chwefror yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Ein siaradwr gwadd oedd Daff Davies o Llangain  ac estynnwyd croeso cynnes iddo gan y Cadeirydd Claude James.  Testun ei araith oedd Taith fy Mywyd. Yn wreiddiol o fferm Tŷ Canol, Llangynog lle bu’n gweithio gyda’i rieni.  Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Pen Pitch San Cler. Ar ôl priodi, symudodd ef a’i briod i Fferm Plas Maesgwyn, Llansteffan lle bu’n moderneiddio’r eiddo ac ychwanegu tir drwy brynu dwy fferm arall.

    Roedd diddordeb mawr ganddo ym mudiad y Ffermwyr Ifanc a bu’n aelod brwd am flynyddoedd ac yn arbenigwr ar agor ffowls, gan gyrychioli Cymru yn Llundain. Bu hefyd ar daith gyfnewid yn yr Almaen.

    Gyda phum bachgen arall sefydlwyd tîm rygbi yn San Cler a chawsant lwyddiant mawr am llawer blwyddyn.

    Diddordeb mawr Daff ac hefyd ei frawd Del oedd Saethu Clau ac roedd y ddau yn arbennigwyr.  Bu’r ddau yn bencampwyr Cymru ac wedi cynrychioli’i gwlad dros y byd yn cynnwys Mexico a’r Eidal. Bu Daff hefyd ar y rhaglen Shot Olau ar S4C. Mae hefyd yn chwarae Bowls Mat Byr i Llangain.  Pysgota yw un diddordeb mawr arall ganddo.

    Ar ddiwedd ei yrfa’n ffermio, cafodd ei ethol yn Gynghorwr Sir yn cynrychioli Llansteffan, Llangain a Llangynog a bu’n gwneud y swydd am dair blwyddyn ar ddeg. Yn ystod yr amser yma, cafodd ei benodi yn Gadeirydd y cyngor.

    Noson arbennig yn llawn hiwmor a diolchwyd i Daff gan Ithel Parri Roberts.