Yng nghyfarfod mis Chwefror, y siaradwr gwadd oedd David Jones, Porthfaer (Portreeve) Lacharn Estynwyd croseo iddo gan y Cadeirydd, Claude James.
Cafwyd anerchiad ganddo yn olrhain hanes y swydd bwysig hon. Mae’r Porthfaer yn cael ei benodi am ddwy flynedd a phan yn cymeryd at y dyletswyddau, mae’n gwisgo cadwyn wedi ei haddurno gyda cregin cocos (o aur pur 24 carat). Mae pob Porthfaer yn ychwanegu cragen ei hun sy’n costio heddiw tua £800! Mae’r gadwyn ei hun yn werth £200,000
Mae’r traddodiad yn mynd nôl saith cant o flynyddoedd ac mae Lacharn yn un o’r trefi olaf sy’n bod fel corfforaeth ym Mhrydain Fawr.
Bu David yn egluro sut y cafodd ei benodi i’r swydd a’r dyletswyddau fydd yn gyflawni adeg ei dymor.
Bu’n gyflwyniad diddorol iawn yn olrhain hanes tref hynafol Lacharn.
Diolchwyd iddo, ar ran y gangen, gan Wyn Evans.