Y siaradwr gwâdd yn y cyfarfod misol oedd Emyr Phillips, Cilgerran. Mae wedi ymdddeol ar ôl gyrfa fel athro a phrifathro yn ysgolion Maenclochog, Blaenffos, Tegryn, Llechryd ac Eglwyswrw. Mae’n fecanic da gyda diddordeb mawr mewn hen geir.
Gyda chymorth ffilmiau, testun ei gyflwyniad oedd ‘Hanes y Cardi Bach’, y tren a fu’n rhedeg o Aberteifi i Hendygwyn hyd nes y diddymwyd y gwasanaeth yn 1962, o dan fwyell Beeching.
Yn wreiddiol, ‘Carmarthen and Cardigan Railway’ oedd enw’r lein ac mae tocyn gwreiddiol ar gael gyda’r dyddiad 1868 arno
Dechreuwyd adeiladu lein y Cardi Bach yn 1870, yn wreiddiol i gario nwyddau yn unig, yn bennaf i gario cerrig o Gwarre Glôg..
Dangosodd ffilm o waith y diweddar Dr. George Penn, o’r diwrnod cau’r lein a’r daith o Aberteifi i Hendygwyn. Roedd y tren yn llawn gyda phob gorsaf wedi gosod torch o flodau i gofio’r achlysur trist.
Yn 2012, 50 mlynedd ers cau’r lein, ffurfiwyd ‘Cymdeithas Y Cardi Bach gydag Emyr yn aelod gweithgar a blaenllaw.
Mae gorsaf Login erbyn hyn yn lle bwyta ac mae’r perchennog yn bwriadu adeiladu amgueddfa ar y safle.
I orffen, dangosodd ffilm o bontydd y lein i gyd – fel yr oeddent yn amser prysur y lein ac yn awr, llawer ohonynt wedi eu dymchwel.
Cafwyd cyflwyniad a oedd o ddiddordeb i bawb a diolchwyd iddo gan Ronnie Howells sydd, erbyn hyn, dros ei 90 oed. Bu ef yn yrrwr tren ar y lein am dros 40 mlynedd ac mae ganddo lu o atgofion am ei yrfa.