Hoffem ddiolch i Mr. Ronnie Howells am drefnu’r Cinio Blynyddol. Cafwyd pryd blasus yn Nhafarn yr Oen, Llanboidy a diolch iddynt hwythau am y croeso. Y siaradwr gwâdd oedd Mr. Dai Phillips o Cross Inn, ac wedi’r cinio cafwyd araith ddiddorol iawn ganddo am ei yrfa fel athro plant afreolus. Noson i’w chofio! Yn y cyfarfod ar ddechrau’r mis, pendefynwyd anfon £150 o’r coffrau, i Dy Hafan.