Cynhaliwyd noson arbennig iawn yng Nghanolfan Gymdeithasol Ffynnonwen, Login ar nos Iau, Mehefin 30ain wrth i Gymdeithas yr Hoelion Wyth anrhydeddu Roy a Rhoswen Llewellyn am roi oes o wasaneth i gymuned eang. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i ddweud diolch, dangos eu gwerthfawrogiad ac i dalu parch i ddau berson arbennig iawn, dau o gymwynaswyr mawr y broydd hyn. Braf oedd cael cwmni teulu Roy a Rhoswen yn ogystal a cynrychiolaeth dda o Gymdeithas yr Hoelion Wyth, Capel Ramoth Cwmfelin Mynach, Cynghorau Cymuned Cilmaenllwyd, Llanboidy a Llanwinio, Papur Bro y Cardi Bach, Mudiad Meithrin, Merched y Wawr a Pwyllgor Canolfan Gymdeithasol Ffynnonwen – i enwi dim ond rhai o’r mudiadau a’r cymdeithasau mae Roy a Rhoswen wedi bod yn ymwneud a nhw dros y degawdau diwethaf.
Mae Cymdeithas yr Hoelion Wyth wedi bod yn anrhydeddu unigolyn yn flynyddol ers sal blwyddyn bellach, ond dyma’r tro cyntaf i ni anrhydeddu dau gyda’u gilydd. Os buodd rhywun erioed yn haeddu’r fath anrhydedd, wel Roy a Rhoswen yw rheiny! Mae eu gweithgarwch a’u cyfraniad i’r broydd hyn wedi bod, ac yn dal i fod, yn ddiarhebol ac yn hollol rhyfeddol – a mawr yw ein dyled a’n diolch iddynt.
Bu’n fraint ac yn bleser pur i minnau, nid yn unig yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth, ond hefyd ar lefel bersonol, i drefnu’r noson ar ran y gymdeithas ac i ddadorchuddio’r plac. Ma Roy a Rhoswen wedi cael dylanwad mawr arnaf I, ac ar fywydau cymaint ohonom, dros gyfnod maith. Yn Ffynnonwen dechreuodd fy nghysylltiad gyda’r ddau, dros hanner canrif nol bellach, cysylltiad wnaeth droi yn gyfeillgarwch agos, sydd wedi para byth ers hynny.
Talwyd teyrngede cynnes a clodwiw i Roy a Rhoswen, gennyf i, Aled Gwyn, Euros Jones Evans, Beti a Sian a Carol Ayers, diolch iddynt am hynny. Bu cwmni teledu Tinopolis yn ffilmio’r achlysur a talwyd teyrnged diffuant hefyd gan Wyn Evans, ar ran, ac yng Nghapel Ramoth, mlan llaw. Diolch o galon i Bwyllgor Canolfan Gymdeithasol Ffynnonwen am y cydweithio agos ac hapus fu rhyngom ynglyn a’r trefniade; i Wyn Owens am lunio’r englyn gwych sydd wedi ei gynnwys ar y plac; i Gyngor Cymuned Cilmaenllwyd am ei ariannu; i Clive Edwards am ei rodd yntau; i William a Sian Evans am ganiatau i ni barcio ceir yn y cae gyferbyn a’r Ganolfan ac i’r gynulleidfa am eu presenoldeb. Diolchodd Roy yn gynnes iawn gan bwysleisio taw dyma’r anrhydedd fwyaf mae e a Rhoswen wedi ei dderbyn erioed. Cafwyd cyfle i gymdeithasu ymhellach tu fewn y Ganolfan, drwy fwynhau lluniaeth wedi ei baratoi gan bwyllgor y Ganolfan a diolchodd Roy yn gynnes iawn i bawb fu’n paratoi’r arlwy.
Arwyr oes – Roy a Rhoswen!
I gyfarch Roy a Rhoswen
Roy a Rhoswen; llawenydd yw i ni
Yn awr ganu’ch clodydd.
Dau ffyddlon, dewrion eich dydd
Yn tywys ym mhob tywydd.
Aled Gwyn
Y DDEUDDYN YN Y WAL
I Roy a Rhoswen Llewellyn ar achlysur gosod
plac ar wal Canolfan Gymdeithasol Ffynnonwen
nos Iau 30 Mehefin 2022, i ddynodi eu cyfraniad
mawr i gymdeithas yr ardal
Mae lleisiau hen blentyndod yn haenau’r muriau hyn; cyneuant ynom heno gan roi ein cof ar gynn; ein Alma Mater ydyw, fe gofiwn hynny‘n awr nyni a gafodd addysg y ddeurŵm bach a mawr. Ac fel gwenoliaid buain a wibiai ‘n ôl a mlaeni wneud flynyddol nythod dan fargod gyda graen, fe ddartia’r dyddiau hynny ar hynt i daro’r nodgan dreiddio â’u buander hyd ddyfnder eitha’n bod. Bu’r waliau yn arddangos campweithiau bysedd bach; pob llun a cherdd ac ysgrif yn dangos doniau iach . balchder rhedem adre – fe’n gwnâi yn fwy na thal -wrth floeddio yn ddiniwed ‘Fy llun sy i ar y wal.’ Ond heno ar wal ‘rysgol rhown rywbeth bery byth; rhown stamp anrhydedd ardal i ddeuddyn yn ein plith. Amlyga Roy a Rhoswen rinweddau a phob moes; mae’u henwau yn dynodi partneriaeth gydol oes. Gwir gymwynaswyr ffyddlon dros bopeth fuont hwy; o Login i Gwmfelin gyflawnodd rhywrai fwy? Dros iaith, a’n byw ddiwylliant, dros les a hawliau’r dydd, dros hawliau cymdeithasol, a phopeth gorau’r Ffydd. Bu Roy yn grwtyn yma – yr ail yn nheulu’r Rhiw -dilynodd lle bu’i dadau ar feidyr dysgu byw; diau y plannwyd ynddo wir werthoedd yn ddi-ffaela’i gwnaeth ymhen yr amser yn gymwynasawr hael. I’r Blaid a’i holl ymdrechion; i’r Cyngor yn sir Gâr; i gymdeithasau ‘lusen fe wnaeth yn fwy na’i siâr. Digrifwr a storïwr, diddanwr yn llawn bri, a hwyl y Noson Lawen a lywiai gyda sbri. Fe lywiodd weithgareddau’r ganolfan gyda sêl; mae ddiflin waith arloesol yma i’r neb a’i gwêl .A phwy a all anghofio y cyfeillgarwch triwa roes mor gyfareddol i ’r anghymarol Huw? I Ffynnon-wen daeth Rhoswen yn ifanc yn ei rhawd; athrawes gyda’r gore mewn cyfnod digon tlawd. A phan ddyrchafwyd hithau yn bennaeth – dyna rôl !chwyldrowyd addysg gynradd, daeth angerdd yma‘n ôl. Brwdfrydedd ymgorfforai fel bwrlwm gloyw’r nant, a gwres ei phersonoliaeth a ddenai serch y plant. Does ryfedd fod y plantos fu yma gyda hiyn dal i sôn amdani: ein Rhoswen, Rhoswen ni. Deallus ac amryddawn; mae’n sgolor ymhob dawn o gyfansoddi cerddi a ‘sgrifau celfydd iawn. Fe droes y reddf i sgwennu’n gaffaeliad yn llawn fflachwrth hel a nôl newyddion ar gledrau’r Cardi Bach. Do gyrrodd am flynydde y trên cymdogol braftrwy ledu ei orwelion tu hwnt i ddyffryn Tafgan roi ar gof a chadw hanesion llawn apêli’r werin hoff gymdogol; a’r werin ‘r oes a ddêl. Ca’dd urddwisg wen yr orsedd am wasanaethau mawr; fe’i gwnaed hi’n llywydd parchus mudiad Merched y Wawr. Am oes o waith yn Ramoth a’r Ysgol Sul lle bu, yn iawn dyfarnwyd iddi holl fraint y Fedal Gee. I’r Hoelion Wyth mae’r diolch am weledigaeth dda, a’u gweithred mor ddigymar ar noson hon o ha ’trwy roi ar wal yr ysgol un plac a bery byth:rhoi stamp anrhydedd ardal i ddeuddyn yn ein plith. Euros Jones Evans |