Cynhaliwyd noson o adloniant dan nawdd Cymdeithas Genedlaethol yr Hoelion Wyth yng Nghlwb Carafannau Cwrwglau Cenarth ar nos Wener, Tachwedd 13eg.
Croesawyd pawb ynghyd gan Calfin Griffiths, Cadeirydd y Gymdeithas cyn iddo gyflwyno Bois y Gilfach, parti o fechgyn o ardal Mydroilyn.
Cafwyd amrywiaeth o eitemau ganddynt yn cynnwys unawdau gwerin, sgetsys yn ogystal a caneuon traddodiadol a chyfoes gan y parti
Bu’n noson o adloniant pur o safon uchel a diolchodd Calfin i Bois y Gilfach am ein diddanu drwy gydol y nos. Diolchodd yn arbennig i Heledd, cyfeilydd ac arweinydd y parti ac hefyd i Hywel Lloyd ( Hywel Gas ) am arwain y nosweth yn ei ffordd unigryw
Cyflwynwyd dwy siec am £250 yr un ( elw noson o adloniant 2014 ) i Ken Jones tuag at elusennau Tenovus sy’n gyfrifol am y ‘Man Van’ a Mudiad Lleol Cefnogi dioddefwyr Cancr y Prostad.
Bydd elw noson adloniant eleni yn cael ei gyflwyno i Gymdeithas Stroc.
Llun Bois Y Gilfach
Cyflwyno siec i Ken Jones ar ran Grwp Cefnogi Cancr Y Prostad
Cyflwyno siec i Ken Jones ar ran Tenovus sy’n gyfrifol am y ‘Man Van’
Bois y Gilfach a’r arweinyddes Heledd Williams yn Cyflwyno siec at achos R.A.B.I.