Ar y 8fed o Fai, aethom ar daith ddirgel a drefnwyd gan Eurfyl Lewis, ein swyddog adloniant. Teithiom ar fws Midway drwy heolydd troellog Gorllewin Sir Gâr cyn cyrraedd bwthyn Y Gangell, ger pentref Blaen-y-coed. Y Gangell oedd cartref genedigol y gweinidog, bardd ar emynydd Howell Elvet Lewis – Elfed. (1860 – 1953)
Yno i’n croesawu a’n tywys oedd Delme Phillips. Cawsom ychydig o hanes y bwthyn dwy ystafell ac atig isel, lle y magwyd deg o blant. Elfed oedd yr hynaf ohonynt. Mae’r bwthyn yn amgueddfa fechan sy’n arddangosfa o ychydig o’i hanes.
Roedd yntau wedi dechrau pregethu pan yn dair ar ddeg oed a bu’n gwneud hynny hyd nes iddo farw yn naw deg tri oed. Bu’n weinidog yn Buckley, Hull, Llanelli, Harecourt, Llundain ac am gyfnod o dri deg chwech mlynedd gyda’r annibynnwyr yn Nhabernacl, Kings Cross, Llundain,
Aethom ymlaen wedyn i gapel y teulu ym mhentref Blaen-y-coed a gweld y ffenestr liw sydd wedi ei fframio a roddwyd i Elfed wrth iddo orffen yn Kings Cross. Dangoswyd y bedd lle claddwyd ei lwch yn 1953 i ni hefyd.
Diolchwyd i Delme gan ein Cadeirydd Eifion Evans cyn i ni deithio ymlaen i gael swper blasus yn Nhafarn Beca, Trelech. Diolch i Eleri a Chris am y croeso cynnes a’r bwyd blasus.
Edrychwn ymlaen am seibiant dros yr haf, cyn ail gychwyn ar nos Fercher, Medi 30ain.



BEDD ELFED LLE CLADDWYD EI LWCH
