Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yn Nhafarn Ffostrasol ar nos Wener, Mawrth 27ain. Arweinydd y noson oedd John Jones, Ffair Rhos a’r ddau feirniad oedd y gwr a’r wraig Owen a Dwynwen Llywelyn, Felinfach. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Cors Caron. Cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf hefyd i gangen Cors Caron. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ar y testun “Colli neu Bwlch” gan John Jones, Cors Caron a’r goron am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Arallgyfeirio” gan Eurfyl Lewis, Beca – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan ( eitem ddigri ) i Calfin Griffiths, cangen Sion Cwilt. Enillwyd tlws coffa Huw Griffiths gan cangen Beca. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd John yn ddiffuant I Owen a Dwynwen am feirniadu, i dafarn Ffostrasol am ganiatáu i ni gynnal yr Eisteddfod yno ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth. Roedd hi’n wych cael dod at ein gilydd unwaith yn rhagor a treuliwyd amser hyfryd yn cymdeithasu’n braf ar derfyn yr Eisteddfod.
Dyma restr y canlyniadau:-
Dweud Joc
1. Wyn Evans, Sion Cwilt
2. John Meredith, Cors Caron
3. Brian Edwards, Beca
Stori a Stumiau
1. Eurfyl a Nigel , Beca
2. Huw a Daniel, Cors Caron
3. Wmffre ac Iwan, Sion Cwilt
Sgetsh
1. Cors Caron
2. Sion Cwilt
3. Beca
Eitem Ddigri
1. Sion Cwilt
2. Cors Caron
3. Beca
Cor
1. Beca
2. Cors Caron
3. Sion Cwilt
Brawddeg ar y gair “CARREG LAS”
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. John Jones, Cors Caron
3. Eurfyl Lewis, Beca
Brysneges ar y lythyren “P”
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. Alun Davies, Cors Caron
3. Peredur Evans, Cors Caron
Limrig yn cynnwys y llinell ” Ar fore dydd Calan eleni”.
1. John Jones, Cors Caron
2. Peredur Evans, Cors Caron
3. Eurfyl Lewis, Beca
Creu joc newydd
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. Geraint Morgan, Cors Caron
3. Calfin Griffiths, Sion Cwilt
Cerdd ar y testun “Colli neu Bwlch”
1. John Jones, Cors Caron
2. Eurfyl Lewis, Beca
3. John Jones, Cors Caron
Cerdd ddigri ar y testun “Y Sioe”.
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. Geraint Morgan, Cors Caron
3. John Jones, Cors Caron
Dyma’r sgor terfynol ;-
- Cors Caron 55
- Beca 50
- Sion Cwilt 36
Y cor Unedig

Enillwyr y prif wobrau gyda’r beirniaid
