Croesawyd yr aelodau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans a cyflwynodd ein siaradwr gwadd sef Eifion Wyn Nicholas (Ted) o Pentlepoir;- sy’n gyn blismon a ditectif. Ychydig o’i hanes, ei brofiadau ac ambell stori oedd testun ei gyflwyniad.
O ardal Henllan Amgoed yn wreiddiol, yn un o bedwar o fechgyn. Aeth Ted ac un brawd i weithio i’r heddlu a dau arall i’r hufenfa yn Hendy-gwyn. Cafodd ei addysg gynradd yn Henllan cyn symud i ysgol ramadeg Hendy-gwyn lle synnodd pa mor Saesnig oedd awyrgylch yr ysgol. Ar ôl gorffen yr ysgol honno gyda 7 lefel ‘O’, penderfynodd ymgeisio i fod yn gadet gyda’r heddlu. Yn dilyn ei gyfnod gyda’r cadéts fe wnaeth ymuno gyda’r heddlu yn 1971. Pan yn blentyn bu’n cadw cofnod o rif cofrestru pob cerbyd bydde’n pasio ei gartref. Buodd hyn o help i heddwas Hendy-gwyn un tro wrth i hwnnw wybod am ddiddordeb Ted. Wrth chwilio am gerbyd ryw droseddwr un tro, roedd record gyda Ted bo’r car wedi pasio drwy Henllan ar y dyddiad ar amser penodol!
Mae’n cofio y tro cyntaf iddo arestio dyn am ddwyn o siop yn Llanelli. Dyn bregus oedd wedi ei fagu mewn cartref Barnardos. Y diwrnod canlynol darganfuwyd corff y dyn mewn llyn ger pwll nofio Llanelli, roedd wedi boddi ei hunan. Mae’r digwyddiad trist yma wedi aros yng nghof Ted. Yn ystod ei gyfnod o 33 mlynedd gyda’r heddlu, buodd mewn rôl uniform, CID a gweithio fel ditectif cudd. Buodd yn delio a llofruddiaethau yng Nghaerfyrddin, Llanelli ac yn Scoveston, lle’r oedd gan yr heddlu dystiolaeth ond diffyg yr adnoddau fforensig modern i gyhuddo neb ar y pryd. Nododd bod sawl cyd-ddigwyddiad a digwyddiadau o fod yn y man iawn ar yr amser iawn, i weld neu glywed rhywbeth wedi helpu ei yrfa pan yn gweithio yng nghudd. Bu’n gweithio i’r sgwad cyffuriau yn Abergwaun, Aberystwyth a Chaerfyrddin ac roedd yn rhan o dîm enfawr oedd yn cynnwys swyddogion o un ar ddeg llynges heddlu a gymerodd rhan yn y cyrch gwrth gyffuriau LSD (Lysergic Acid Diethylamide) mwyaf erioed yn ardal Tregaron a Chanolbarth Cymru sef ‘Operation Julie’. Cafodd yr ymgyrch ei enwi ar ôl DS Julie Taylor un o’r swyddogion cudd daeth i weithio yn yr ardal. Ym mis Mawrth 1977, yn dilyn 13 mis o wylio’n gudd, gwnaeth swyddogion y cyrch arestio arweinwyr ymgyrch creu tabledi LSD a gafael ar dros filiwn ohonynt.
Cawsom amryw stori ddoniol a ddiddorol arall ganddo a diolchwyd iddo gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

