Ein siaradwraig wadd yng nghyfarfod mis Chwefror oedd Catrin Sian Kilcoyne (Rees gynt) ac estynnwyd groeso cynnes iddi gan y cadeirydd, Claude James. Ganwyd Sian yn Abertawe ac yr oedd yn un o’r disgyblion cyntaf i dderbyn addysg drwy gyfrwng y gymraeg yn Ysgol Gynradd Cwmbwrla, lle roedd ei thad William Rees yn athro. Cafodd ei thad swydd wedyn fel pennaeth yn Ysgol Gynradd Llwynmadog, Beulah a symudodd y teulu i fyw yn nghefn gwlad Sir Frycheiniog. Cafodd ei Addysg uwchradd yn Ysgol Llanfair Ym Muallt ac yna graddio yn Saesneg a Drama o Brifysgol Bangor.
Ar ôl ymddeol dechreuodd ysgrifennu blog gyda’i brawd Huw, oedd wedi priodi ac ymgartrefu yn Iwerddon ac yn teimlo nad oedd yn gwbod hanner digon am hanes Cymru. Roeddynt yn ysgrifennu rhyw hanesyn am Gymru bob dydd o’r flwyddyn a’i roi ar y cyfryngau cymdeithasol. Datbygodd y blog i fod yn llwyddiannus dros ben gyda dros 300,00 o ddilynwyr. Yn 2021, daeth cynnig gan Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi llyfr yn saesneg, yn seiliedig ar gynnwys y blog a chyhoeddwyd ‘Wales on this Day’ yn Nadolig 2022. Erbyn hyn, hwn yw’r llyfr mwyaf poblogaidd i Lyfrau Calon (adran o Wasg Prifysgol Cymru) gyhoeddi ac erbyn hyn yn y chweched argraffiad. Mae ail gyfrol ‘Welsh Women on this day’ yn cael ei argraffu ar y 13eg o ddiwedd Chwefror eleni.
Yn dilyn y cyflwyniad, aeth o amgylch yr aelodau gan ofyn am ddyddiad geni neu ddyddiad pwysig yn eu hanes ac yn y llyfr roedd hanesyn diddorol am rywbeth ddigwyddodd yng Nghymru ar y dyddiad arbennig hynny. Noson hynod o ddiddorol a diolchwyd i Sian gan Trefor Evans.