HOELION WYTH 2026
NOS WENER 27ain o Fawrth 2026
7.00 p.m.(Yn brydlon)
Yn Nhafarn Ffostrasol
Mae’r tafarn yn gwerthu bwyd os ydych yn dymuno cyn i’r eisteddfod – rhaid cyrraedd yn gynnar os yn bwyta
EITEMAU LLWYFAN
- Jôc neu stori weddus – testun yn agored
- Stori a Stumie
- Sgets – testun yn agored
- Eitem ddigri – agored
- Côr – Lleucu Llwyd (geiriau ar y cefn)
EITEMAU GWAITH CARTREF
- Brawddeg ar y gair CARREG LAS
- Brysneges ar y llythyren P
- Limerig yn cynnwys y llinell
“Ar fore dydd Calan eleni”
- Joc newydd – ar ffurf cwestiwn ac ateb
- Cerdd ar unrhyw fesur – Colli neu Bwlch
- Cerdd Ddigri – Arall gyfeirio
Anfoner y Gwaith cartref erbyn y dyddiad cau 18/3/26 at y beirniaid Dwynwen + Owen Llywelyn ar e-bost neu drwy’r post i: Pant y Gronw, Felinfach, Dyffryn Aeron, Ceredigion SA48 8BQ
Dwyns.ll@gmail.com
AMODAU
- Ni wobrwyr oni bydd teilyngdod
- Bydd y telerau arferol mewn grym
- Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i’r iaith honno fod yn weddus
- Bydd barn yr Is-bwyllgor yn derfynol
- Y gangen fuddugol i sicrhau fod tlws yr Eistddfod ar gael i’r Eisteddfod nesaf
- Rhaid dangos parch at y Beirniaid o leiaf hyd at ddiwedd yr Eisteddfod
- Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadleuaethau llwyfan
- Enillwyr pob tlws eisteddfodol fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf
GWOBRAU
- Ni ddyfernir gwobr yn yr Adran Gwaith cartref i enillydd absennol
- Gwobrwyir Cadair yr Eisteddfod i enillydd y Gerdd a’r Goron i enillydd y Gerdd Ddigri
- Cyflwynwir Tlws Cangen Beca i’r gangen a’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
- Cyflwynir Tlws Cangen Aberporth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan yn marn y Beirniad
- Cyflwynir Tlws Coffa Huw ‘Bach’ Griffiths i’r Côr buddugol
- Cyflwynir Tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf
Lleucu Llwyd
Cytgan:
Lleucu Llwyd, rwyt ti’n hardd,
Lleucu Llwyd rwyt ti’n werth y byd i mi.
Lleucu Llwyd, rwyt ti’n angel,
Lleucu Llwyd rwy’n dy garu di o hyd.
O! rwy’n cofio cwrdd â thi
Ac rwy’n cofio’r glaw,
Ydy’r eos yn y goedwig?
Ydy’r blodau yn y maes gerllaw?
Yn yr afon mae cyfrinach
ein cusan cynta’ ni,
Ac mae’r blodau yn y goedwig
yn sibrwd dy enw di.
(Cytgan)
O! mae’r oriau mân yn pasio
fel eiliad ar adain y gwynt,
A gorweddaf ar fy ngwely,
efallai daw’r freuddwyd yn gynt,
O! mae rhywun yn agosáu,
mi glywaf wichian y glwyd,
Ac rwy’n nabod swn yr esgid –
mae’n perthyn i Lleucu Llwyd.
(Cytgan)