Croesawyd yr aelodau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans a cyflwynodd ein siaradwr gwadd sef John Daniels o Gaerfyrddin;- y cyn plismon a ditectif. Ychydig o’i hanes, ei brofiadau ac ambell stori oedd testun ei gyflwyniad.
Un o ardal Rhydaman yn wreiddiol a dechreuodd drwy ddweud taw o ganlyniad i’r ffaith ei fod wedi methu arholiad y ’11 Plus’ oedd wedi cyfeirio ei yrfa. Golygai hyn ni alle fynd i’r ysgol Ramadeg ond i’r ysgol y ‘secondary modern’ yn Rhydaman. Ar ôl gorffen yr ysgol honno gyda 6 lefel ‘O’, cafodd waith yn swyddfa’r DVLA yn Nhreforys. Nid oedd yn hapus iawn yno ac fe berswadiodd ei dad ef i geisio ymuno gyda’r heddlu. Yn dilyn ei hyfforddiant treuliodd flynyddoedd lawer mewn amryw dref yn yr hen Sir Dyfed gan weithio i fyny o fod yn gwnstabl, i dditectif gyda’r ‘CID a ‘Special Branch’ cyn gorffen ei yrfa fel Uwch Prif Arolygwr.
Yn ystod ei gyfnod gyda’r heddlu, buodd yn delio a llofruddiaethau yn Nhregaron, Pennar ac Aberdaugleddau. Roedd hefyd yn rhan o’r tîm ehangach buodd yn gweithio i ddal y smyglwyr cyffuriau ardal Trefdraeth sef y cyrch ac enwyd yn ‘Operation Seal Bay’. Dywedodd na fyddai’r cyrch cyffuriau yma wedi bod yn llwyddiannus oni bai am y bobol leol oedd wedi sylwi ar bethau anghyffredin yn digwydd yn eu hardal. Fe oedd yn gyfrifol adeg y gwarchae yn ysbyty Llwynhelyg pan gymerwyd meddyg ifanc yn wystl. Hefyd yn ystod ei gyfnod yn swyddfa Hwlffordd, darganfuwyd offer a thystiolaeth yng nghartref John William Cooper ar ôl iddo gael ei arestio am ddwyn. Drwy ddefnyddio profion fforensig modern daeth yn amlwg bod ‘na gyswllt pendant rhwng John William Cooper a’r llofruddiaethau’r Thomas’s yn Scoveston yn 1985 a’r Dixons ar lwybr yr arfordir yn 1989. Profwyd hyn a charcharwyd Cooper am oes yn 2011.
Ers cymryd ymddeoliad cynnar o’r heddlu bu’n gweithio fel ymgynghorydd i’r heddlu. Un o’i brif ddyletswyddau oedd bod yn Brif Swyddog Diogelwch i’r gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Ers 2016 mae John wedi bod yn ymddiriedolwr gyda’r elusen Prostad Cymru ac mae’n weithgar iawn i’r elusen.
Cawsom noson ddiddorol yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

