Skip to content

Cyfarfod Tachwedd 26ain 2025

    Croesawyd yr aelodau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans a chyflwynodd ein siaradwr gwadd sef Emyr Llywelyn o Ffostrasol  sy’n aelod o gangen Banc Siôn Cwilt o’r Hoelion. Digrifwch Waldo Williams oedd testun ei gyflwyniad.  Dechreuodd drwy ddweud faint o fraint ac anrhydedd oedd ei fod wedi cael ei adnabod.  Disgrifiodd ef fel person llawen, llawn digrifwch ond hefyd heddychwr i’r carn a pherson difrifol oedd yn dioddef pyliau o anhwylder meddyliol ar adegau.

    Person pwysig ym mywyd Waldo oedd y Wyddeles a’r lleian – y Chwaer Boscoe (Nora Gabriel Costigan) a fuodd yn ffrind da a gwarchodol iddo am flynyddoedd.  Yn 1959, roedd y Chwaer yn brifathrawes ar Ysgol y Fair Ddihalog yn Hwlffordd ac ymunodd hi a’r Chwaer Ignatius â dosbarth nos Waldo Williams ar lenyddiaeth Gymraeg, ac i ddysgu’r iaith. Dywedodd fod Waldo yn athro penigamp ac yn un didwyll, caredig bob amser ac yn ddyn annwyl iawn. Eglurodd Emyr Llywelyn fod gan Waldo ffordd anghonfensiynol o ddysgu a mae’n debyg y gofynnwyd iddo unwaith gan blentyn, “Are you a real teacher?” Byddai’n cario bag brown gydag ef i bob man ac ynddo byddai’n cadw ffrwythau, ei byjamas, brwsh dannedd a’i bapurau darlith. Roedd yn hoff iawn o blant a byddai’n rhoi afalau ac orennau iddynt fel rhodd ac arferai ymweld â safle sipsiwn yn fynych i siarad â’r plant.  Wrth iddo  agosáu at garafán sipiwn un tro, clywodd lais plentyn yn dweud “Here comes the orange man!”

    Bu Waldo yng ngharchar ar ddau achlysur am beidio talu treth incwm ac yno bu’n cymysgu gyda pob math o gymeriadau!  Pan ei ryddhawyd bu’n egluro i rai o’r lleianod sut y dysgodd y ffordd i dorri mewn i dŷ!  Byddai yn fynych yn teithio ar ei feic yn ei drowsus byr, a phan deithiodd  ar draws de Iwerddon un tro a methu cael lle i aros cysgodd ar fainc mewn parc cyhoeddus.  Daeth ci ato gan ei wynto a llyfu ei drwyn ac yn hwyrach daeth heddwas  a gofyn iddo symud oddi yno.  Yn ôl y sôn dywedodd Waldo ei fod wedi cael mwy o barch gan y ci na’r heddwas!

    Cafodd ei berswadio i sefyll fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn Sir Benfro. Er ei ymdrech i fynd o gwmpas ar ei feic i gynfaso dim ond 2,253 o bleidleisiau y derbyniodd. Roedd y sir yn dalcen caled i’r blaid ar y pryd. Holwyd iddo a oedd yn siomedig gyda’r canlyniad, ei ymateb oedd fod llawer gwell gyda fe fod y Sir Benfro nac yn San Steffan, beth bynnag. Yn ystod yr etholiad canlynol bu’n helpu gydag ymgyrch y blaid a phan fynychodd un o’r cyfarfodydd etholiadol agored yn ardal Hwlffordd dim ond un person arall oedd yn y gynulleidfa. Er hynny cyflwynodd neges y blaid ac ar ôl gorffen cododd y  person a gofyn “Can I lock up now?” Ar un adeg gwahoddwyd ef i ddarlithio yng Ngwmtydu ar ben yr odyn galch.  Yn anffodus daeth i’r glaw a gorfu iddo eistedd yng nghar T. Llew Jones a  parhau â’r ddarlith drwy ffenest y car.

    Cawsom noson hwylus a difyr yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.