Skip to content

Cinio Cangen Beca Medi 26

    Dechreuwyd ein tymor drwy gael swper yn y Caffi Beca newydd. Croesawyd ni yno gan ein Cadeirydd Eifion Evans, a chyflwynodd ein siaradwraig wadd sef aelod seneddol Plaid Cymru ardal sir Gâr, Ann Davies.

    Magwyd hi ar fferm fach yn ardal Llanarthne ac ar ôl gwneud ei harholiadau TGAU a gorffen yr ysgol, cafodd gymhwyster diploma mewn cerddoriaeth, a bu’n athrawes beripatetig cerdd am sawl blwyddyn.  Priododd â ffermwr pan oedd yn ei hugeiniau cynnar ac mae ganddynt dair o ferched. Ar ôl dysgu cerddoriaeth mewn sawl ysgol daeth cais iddi ymgeisio am sedd ar Gyngor Sir Gâr.  Cafodd ei chyfethol y tro cyntaf ac enillodd etholiad yr ail dro. Bu’n aelod o’r cabinet a oedd yn ymdrin â materion gwledig, cydlyniant cymunedol a pholisi cynllunio. Yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd sir penderfynodd wneud gradd mewn addysg gynnar Yng Ngholeg Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Graddiodd hi ac un o’i merched yr un pryd.

    Yn ystod 2023, ar ôl ychydig o anogaeth penderfynodd sefyll i fod yn aelod seneddol dros yr ardal etholiad newydd ar gyfer 2024. Dechreuodd ei hymgyrch yn Ionawr 2024 heb wybod bydda’r etholiad yn cael ei alw ym mis Mai. Yn y cyfnod byr hwn gwnaeth ymdrech dda i ymweld â chymaint o gartrefi â phosib. Bu’r ymdrech yn llwyddiannus gydag Ann yn derbyn 34% o’r pleidleisiau. Cyn gorffen, pwysleisiodd ei bod yn barod i weithio’n galed ar ran holl bobol yr etholaeth.

    Diolchwyd iddi am ei chyflwyniad diddorol a hefyd i Robert a staff y caffi am y lluniaeth a’r croeso.