Skip to content

Cymdeithas
Yr Hoelion Wyth

John Davies a'r Hoelion Wyth

Roedden ni’n meddwl fod angen rhywbeth i dynnu’r dynion at ei gilydd i gael cymdeithas drwy gyfrwng y Gymraeg… Cyn pen dim yr oedd y gair ar led yn y broydd fod bechgyn Aberporth yn cael tipyn o hwyl yn cyfarfod unwaith y misfin nos a dyma ardaloedd eraill yn awyddus i sefydlu cangen.

Rhyfedd y dylanwad y gall un person ei gael ar ardal a hyd yn oed ymhell tu hwnt i’w ardal. Person felly yw John Davies, Aberporth – sylfaenydd Cymdeithas Yr Hoelion Wyth.

Beth yw’r Hoelion Wyth? Wel, roedd Sonia Bowen a merched y Parc eisoes wedi sefydlu Merched y Wawr i greu adloniant ar gyfer merched. Dyma John Davies a bechgyn Aberporth yn penderfynu fod angen cymdeithas debyg (ond nid rhy debyg!) ar y dynion. A dyna ddechrau’r Hoelion Wyth.

Meddai John Davies, “1973 oedd hi. Roedden ni’n meddwl fod angen rhywbeth i dynnu’r dynion at ei gilydd i gael cymdeithas drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Dic Jones yno rwy’n cofio. Cynigiodd Gwynfor Harries y gof yr enw Hoelion Wyth – a dyna’r gymdeithas ar ei thraed.”

Mae’n amlwg fod gofid am y fro a diwylliant y fro yn rhan hanfodol o weledigaeth y sylfaenwyr. ” Yn y cyfarfod cyntaf fe wnaethon ni hi’n amod mai un o ddyletswyddau’r Gymdeithas oedd gwarchod y fro a fe fuon ni’n ymgyrchu dros nifer bethau yn lleol. Fe lwyddon ni i gael pafin tu allan i’r ysgol leol i ofalu fod y plant yn ddiogel.”

Bechgyn lleol a ddyfeisiodd yr holl bethau oedd yn angenrheidiol i greu cangen swyddogol. Dyfeisiwyd y logo gan Denfa Rees, y darian gan Dai Williams a’r arwyddair “Nid rhwd anrhydedd hoelen” gan Eddie Morgan, a thlws yr Eisteddfod gan Ken Waters.

Cyn pen dim roedd y gair ar led yn y broydd fod bechgyn Aberporth yn cael tipyn o hwyl yn cyfarfod unwaith y mis fin nos a dyma ardaloedd eraill yn awyddus i sefydlu cangen.

Y gangen nesaf i’w ffurfio oedd cangen Hen Dy Gwyn. Roedd Ithel Parry-Roberts yn symbylydd ac erbyn 1986 roedd pedair cangen wedi eu sefydlu – Aberporth, Hen Dy Gwyn, Wes Wes a Siôn Cwilt.

Mae Ieuan Lewis yn adrodd am sefydlu cangen Hen Dy Gwyn. “Rwy’n cofio fod pobol fel y Parch Tecwyn Ifan, Parch Euros Wyn Jones, Haydn Lewis, Iorwerth Davies a Tony Hughes a Melville Hughes yn bresennol”

Pan sefydlwyd Cangen Siôn Cwilt fe ddaeth John Davies i annerch gan bwysleisio mor hanfodol oedd gwarchod y fro Gymraeg. Daeth y digrifwr Eirwyn Pontsian i greu noson o adloniant ar y noson gyntaf. Meddai Danny Morgan wrth gofio’r noson, “Roedd Eirwyn ar ei orau ar noson oeraf y gaeaf. Cafwyd eitemau gan y gwahanol ganghennau gydag Elfed Lewis yn gyfrifol am y gangen leol. Erbyn deuddeg o’r gloch roedd pethau yn eu hanterth ond fe edrychodd rhywun allan drwy’r drws a gweld ei bod hi’n bwrw eira’n drwm a bu’n rhaid i fechgyn Beca ei bwrw hi adref ym mws Login ond aeth yr hwyl yn ei flaen.
Roedd hi’n hwyr cyn i fechgyn Ileol ei bwrw hi am adre a’r ffordd yn llithrig wrth i’r bws geisio dringo rhiw 1 mewn 6. Ond drwy i bawb grynhoi yng nghefn y bws a neidio i fyny ac i iawr ar yr echel ol fe ddringwyd i’r top o’r diwedd. A dweud y gwir roedd un neu ddau heb fod yn rhy sicr ar eu traed hyd yn oed heb yr eira!”

Y gangen olaf i’w sefydlu oedd Wes Wes. Meddai Byron Reynolds, “Roedd cryn deimlad gennym ni, ddynion y fro, fod llawer o bethau traddodiadol yr ardal hon yn cael eu hesgeuluso, traddodiadau oedd yn clymu unigolion ynghyd ac yn fwy na dim a oedd yn gefn i’r iaith Gymraeg.” Felly yn 1988 sefydlwyd cangen gyda Peter Rees yn Gadeirydd.

Wrth edrych nôl dros y blynyddoedd gellir dweud bod Yr Hoelion wedi sicrhau yr hyn roedd eu sylfaenwyr am i’r gymdeithas ei wneud. Dywed Byron Reynolds fod Yr Hoelion wedi bod yn fodd i ddod a phobl ynghyd ac yn gyfle hefyd i adnabod dynion o ardaloedd eraill, “Fe ddaeth Yr Hoelion Wyth yn ôl a rhai o’r traddodiadau ac mae’n sicr fe wnaeth ei ran i gadw’r iaith Gymraeg.” Do, yn sicr fe wnaeth yr Hoelion Wyth hynny.

Mae’r Hoelion Wyth yn dal i fynd ac fe gafwyd Eisteddfod rhwng y canghennau yn ddiweddar sy’n profi fod bywyd o hyd yn y sefydliad ac un peth calonogol oedd gweld nifer fawr o rai ifanc wedi ymuno a Hoelion Siôn Cwilt ac yn gwneud cyfraniad ardderchog. Tybed na ddaeth hi’n amser cenhadu i ledaenu’r Hoelion i froydd eraill ac i ailgynnau’r fflam a roddodd fodolaeth i’r mudiad?

Beth am sefydlu cangen o’r Hoelion Wyth yn eich ardal chi? – Fe fydd y pump cangen sy’n bodoli yn ddigon parod i ddod yno i’ch cefnogi ar gyfer eich cyfarfod cyntaf ac i greu adloniant heb fod yn rhy barchus!

Yr ail gymal yng nghyfansoddiad yr Hoelion yw “I rymuso addysg gyhoeddus ac yn arbennig i hyrwyddo diwylliant, addysg a’r celfyddydau yng Nghymru trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.” Pwy all wadu nad yw’r Hoelion wedi gwneud cyfraniad mawr i adloniant a pharhad yr iaith a’r diwylliant yn yr ardaloedd lle sefydlwyd cangen.

Hwyl a sbri yw nodweddion pob cyfarfod gyda’r hwyl yn ymylu weithiau ar y masweddus i fod yn hollol onest! Ond difyrrwch iach cefn gwlad wedi’r cyfan – fel y tystia Dic Jones a Tecwyn Ifan, dau a fu’n Heolion Wyth ar hyd y blynyddoedd.

“Nid rhwd anrhydedd hoelen” meddai’r
arwyddair ac fe fu John Davies yn driw i’r arwyddair gan fod yn brif gynheiliad papur bro Y Gambo yn ei fro ers ei sefydlu.

Mae John Davies yn ddigon brwd a pharod o hyd ac os oes ardal sy am sefydlu cangen neu gael gain o gyngor – gallwch gysylltu ag e yn – Y Graig, Aberporth, Ceredigion neu ar y ffon 01239 810555.