Skip to content

Tymor Newydd

    Dechreuwyd ein tymor eleni fis ynghynt nag arfer sef mis Medi yn hytrach na mis Hydref.

    I agor y tymor gwahoddwyd neb llai na Dai Jones Llanilar. Cafwyd noson hwyliog yn ei gwmni fel y byddech yn disgwyl. Hanes ei fywyd a gawsom a sut y daeth yn Gardi er iddo gael ei eni yn Llundain ac yng ngeiriau Dai ‘Rwy’n gocni o Gardi’.

    Dod ar ei wyliau at ei ewythr a’i fodryb wnaeth Dai i ardal Llangwyryfon, neu Llangwrddon ar lafar gwlad a chael cymaint o flas yng nghefn gwlad fel nad aeth Dai yn ôl i Lundain at ei rieni, a Chymru ben baladr sydd wedi bod ar ei hennill.

    I roi eisin ar y gacen fel petai ymunodd Dai fel aelod o’r gangen.

    Ym mis Hydref gwahoddwyd un o feibion Doldre, Tregaron i roi ychydig o’i hanes fel bailiff ar afon Teifi gyda Chyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn  sef Eifion Davies. Soniodd am y troeon trwstan a’r cymeriadau   a gwrddodd dros y blynyddoedd wrth gyflawni ei waith. Yn wir roedd ambell i aelod yn edrych yn eitha’ pryderus wrth i Eifion sôn am y potsian a gymerau lle pan oedd y samwn yn dod yn ôl i’r afon.Noson arall ddiddorol a hwyliog.

    Mis yma sef Tachwedd ar y bedwaredd nos Wener yn y Talbot disgwyliwn y meddyg lleol sef Dr Siôn James i sgwrsio am iechyd dynion.

    Felly rydym wedi cael dechrau da i’r tymor newydd gyda chanran uchel o’r aelodau yn bresennol.