Skip to content

Taith Hoelion Wyth Cors Caron


    Ar y 5ed o Orffennaf,teithiodd dwsin o aelodau’r gangen ar eu taith ddirgel flynyddol ar fore o Haf hirfelyn,tesog.Yn ôl yr arfer bu cryn ddyfalu i ba gyfeiriad roedd y bws yn anelu,ond wrth ei weld yn cyfeirio at Aberaeron ar sgwar Tyncelyn,daethpwyd i’r casgliad mai’r De ac nid y Gogledd oedd y gyrchfan eleni.O Aberaeron a thrwy Aberteifi ar ras i gyfeiriad Sir Benfro ,cyn aros ym mro Merched Beca’n yr Efailwen ac yng nghaffi Beca,lle’r oedd ein tywysydd am y dydd,Eurfyl Lewis,Cadeirydd Cenedlaethol yr Hoelion 8,yn ein disgwyl er mwyn mynd a ni o gwmpas y fro gyfoethog hon sy’n llawn hanes gyda’i beirdd a’i thraddodiadau a chymeriadau fel Twm Carnabwth a’i debyg.
    Wrth gwrs cyn cychwyn roedd yn rhaid cael rhywbeth yn ein stumogau ac roedd y bwffe cynnar yn wledd ac yn dderbyniol tu hwnt,a’r paned te i’n disychedu’n fwy derbyniol byth!!! Cyn gadael y caffi,cafwyd seremoni fer i goffau Huw Bach o gangen Beca.Roedd Huw yn hoelen deyrngar yn y gangen,a’r eisteddfod flynyddol oedd ei uchafbwynt fawr e. Gosodwyd cerdd goffa iddo mewn ffram gan ei frodyr ac wedi ei chyfansoddi gan Eurfyl. Hon oedd y gerdd a enillodd y goron i Eurfyl yn eisteddfod yr Hoelion yn gynharach eleni. Teyrnged a choffad deilwng tu hwnt.
    Wedi gweld cofeb terfysg Beca,ymlaen i fynwent Blaenconin i weld beddau Huw Bach ac un o gewri barddoniaeth Cymru,Waldo Williams. O’r fynwent i Rosaeron,cartref Waldo a chwrdd a Vernon Beynon a ymunodd a ni a’n tywys i’r ddau gae a ysbrydylodd y gerdd anfarwol ‘Mewn Dau gae’. hefyd y cefndir i nifer o gerddi eraill a ymddangosodd yn y gyfrol ‘Dail Pren’. Roedd hon yn hanner awr fythgofiadwy yng nghwmni Vernon mewn dau gae.

    Mynwent Bethel,Mynachlog Ddu oedd y gyrchfan nesaf,a’r tro yma ymunodd Wyn Owens a ni i roi hanes y cymeriad arbennig hwnnw Twm Carnabwth,arweinydd Merched Beca,

    a W.R Evans a Bois Y Frenni a gyfrannodd sut gymaint i ddiwylliant ein Cenedl. Aethpwyd ymlaen heibio i Dangarn,cartref W.R. a Carnabwth,cartref Twm ac yna at gofeb Waldo lle darllenodd Wyn y gerdd ‘Preseli’-Cadwch y mur rhag y bwystfil,cadwch y ffynnon rhag y baw’.
    Hefyd gwelwyd cofeb W.R. yng Nglynsaithman a chartref Dilwyn Edwards yn Hafod Ddu a chofeb iddo ar sgwar Maenclochog.


    Erbyn hyn roedd y gwres llethol yn dechrau gwneud ei ôl ac er mawr falchder a rhyddhad i bawb pleser pur oedd gweld y bws yn aros ger y ffynnon enwog ‘Tafarn Sinc’! Nid yn unig y cafodd y criw ddiod ysgafn i dorri syched ond cawsom ein cyfareddu gan y system sain,gan fod Eurfyl wedi trefnu chwarae caneuon Bois Y Frenni a Tecwyn Ifan i’n llonni-y cyfan yn crynhoi hanes cyfoethog yr ardal.
    Wedi’n disychedu,roedd un cyrchfan arall ar ôl,sef canolfan yr Urdd Pentre Ifan. Ar y ffordd gwelwyd Cromlech pentre Ifan yn y pellter. Dyma leoliad bendigedig i ddianc am benwythnos,a’r cyfleusterau ar gael i bawb am delerau gwell na rhesymol.
    Erbyn hyn roedd hi’n amlwg bod swper yn galw a phawb yn dra awyddus i ddarganfod ble fyddai’r croeso a’r wledd. Cafwyd yr ateb yn Felindre Farchog ac yn y ‘Salutation’,ac yn wir ni chawsom ein siomi wrth i ni orffen y diwrnod gyda phryd arbennig ac ambell i lwnc destun!!
    Cyn i ni ffarwelio a’n tywysydd Eurfyl,cawsom ambell englyn,limerig a cherdd ddigri ganddo.Mae ein dyled yn fawr iddo am roi o’i ddiwrnod ar ein cyfer. Mae’n wr a’i wreiddiau’n ddwfn yn yr ardal ac yn amlwg yn adnabod ei filltir sgwar fel cefn ei law. Diolch hefyd i Vernon Beynon a Wyn Owens am rannu eu stor o wybodaeth gyda ni,a diolch arbennig i’r gyrrwr amyneddgar o Langeitho,Huw Davies am ei yrru gofalus a diogel drwy’r dydd wrth i ni ddychwelyd yn barchus o gynnar,tua 10.00(!!),wedi mwynhau diwrnod cofiadwy,addysgiadol a chyfoethog tu hwnt.
    Diolch i’r cadeirydd John Jones am wneud yr holl drefniadau