Skip to content

Taith Beca 2017

    I orffen tymor 2016-17 aethom ar ein taith flynyddol i Amgueddfa Genedlaethol Werin, Sain Ffagan a Bathdy Brenhinol, Llantrisant.  Roedd yn fore sych a buom yn crwydro’n hamddenol o gwmpas y safle diddorol a hanesyddol hwn.

    Ar ôl cwrdd ‘nôl yn y bws aethpwyd a ni drwy bentref Sain Ffagan i gyfeiriad Llantrisant ac i’r Bathdy Brenhinol lle’r oedd Cymraes o’r enw Phoebe yn aros i’n tywys o gwmpas y safle. Dechreuodd y cyflwyniad drwy gyfrwng ffilm oedd yn olrhain hanes y safle ers ei hagor ar ddiwedd 1968. Mae’r safle yn cynhyrchu darnau arian, medalau a bariau bwliwn i lawer o wahanol wledydd y byd. Aethom ymlaen wedyn i ystafell arddangos rai o’r prosesau a ddefnyddir i droi metalau, fel aur, arian, nicel a chopr mewn i ddarnau o arian neu fedalau. Y cam nesaf oedd cerdded drwy ardal gwylio’r ffatri i weld rhai o’r peiriannau oedd yn cynhyrchu i fyny at 700 o ddarnau arian pob munud. Gorffenwyd y daith mewn arddangosfa ddiddorol. Diolchwyd i Phoebe am ei chyflwyniad gan y Cadeirydd, Nigel Vaughan.

    Yn dilyn yr ymweliad â’r Bathdy daeth yr amser i deithio tua’r Gorllewin cyn troi am Langennech ac i dafarn Y Bont lle y cawsom llond ein platiau o swper fendigedig.

    Diolchodd y Cadeirydd i Eurfyl am ei waith o drefnu’r daith, i Tudur am yrru’r bws ac i bawb am ddod ar y daith. Nodwyd bod cost y bws wedi ei arianni gan ran o’r arian grant sydd wedi ei dderbyn wrth y Loteri Fawr. Dywedodd Eurfyl hefyd ei fod wedi trefnu y rhan fwyaf o’r siaradwyr ar gyfer y tymor newydd yn barod.

    Wrth ddod i ddiwedd ei gyfnod fel Cadeirydd, diolchodd Nigel i bawb am y gefnogaeth roedd wedi ei dderbyn yn ystod ei bedair blynedd ddiwethaf. Etholwyd Eifion Evans yn Gadeirydd newydd a derbyniodd yntau’r swydd.