Skip to content

Noson gymdeithasol yr Hoelion Wyth

    Cynhaliwyd noson gymdeithasol Cymdeithas yr Hoelion Wyth, drwy gyfrwng zoom, ar nos Sadwrn, Mawrth 27ain.
    Ein gwr gwadd oedd y sylwebydd Wyn Gruffydd o Langain ( gynt o’r Glog ). Estynodd Eurfyl Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas groeso cynnes iddo a cafodd pawb fwynhad mowr wrth wrando arno’n siarad am hanes ei fywyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ei yrfa fel sylwebydd chwaraeon. Mae Wyn wedi cael y mwynhad a’r pleser pennaf o deithio’r byd, yn rhinwedd ei swydd, ac wedi cyfarfod a nifer fawr o enwogion o ganlyniad i hynny. Rhannodd Wyn nifer o straeon difyr gyda ni, nifer ohonynt am y prop cydnerth o Lanycefn sef y diweddar Brian Williams. Fe wnaeth hefyd bwysleisio’r pwysigrwydd o baratoi yn drylwyr, ymlaen llaw, cyn gemau rygbi rhyngwladol, gan gynnwys treulio tipyn o amser yn ymarfer ynganu enwau chwaraewyr o wledydd megis Fiji, Tonga a Siapan yn hollol gywir, er parch iddynt
    Diolchodd Eurfyl i Wyn, ar ran yr aelodau, am noson wirioneddol wych gan dalu teyrnged iddo am ei sylwebaeth godidog a’i ddywediadau ffraeth.

    Mawrygwn dawn dewin y geirie,

    Sylwebydd sylweddol dim whare,

    Disgrifia yn gryno,

    Bob eiliad o’r cyffro,

    Athrylith, canmolwn dy ddonie.