Cynhaliwyd noson gymdeithasol Cymdeithas yr Hoelion Wyth, drwy gyfrwng zoom, ar nos Wener, Mawrth 5ed.
Cafwyd tipyn o hwyl wrth wrando ar yr aelodau yn darllen limrige, brawddege a brysnegeseuon yn ogystal ag adrodd ambell stori.
Ein gwr gwadd oedd CCM – Clive Cwm Meils a cafodd pawb fwynhad mowr wrth wrando arno’n canu ambell gan ac adrodd nifer o storie doniol.
Roedd cyfarfod rhithiol fel hyn yn ffordd hollol newydd o gyfathrebu i fwyafrif yr aelode, ond mi weithodd yn syndod o dda ar y cyfan. Wedi dweud hynny, cafodd y geirie “tro dy gamra mlan” a ” tro’r sain bant / mute” ei ailadrodd nifer o weithe yn ystod y cyfarfod!
Trefnwyd y noson gan Eurfyl Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas. Diolchodd Eurfyl i bawb wnaeth gyfrannu tuag at lwyddiant y noson ac yn arbennig i Clive am ddarparu adloniant ychwanegol i ni.