Skip to content

EISTEDDFOD HOELION 8

    Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yn Nhafarn Ffostrasol ar nos Wener, Hydref 27ain. Arweinyddion  y noson oedd Eurfyl Lewis, Llanglydwen a John Jones, Ffair Rhos a’r ddau feirniad oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones, Aberteifi a Shon “Midway” Rees, Crymych. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Beca a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf  i gangen Cors Caron. Enillwyd y gadair am ysgrifennu telyneg ar y testun “Dathlu” gan John Jones, Cors Caron a’r goron am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Y Trip” gan Geraint Morgan, Cors Caron – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan ( dweud joc ) gan Wyn Evans, Sion Cwilt. Enillwyd tlws coffa Huw Griffiths ar y cyd rhwng cangen Beca a Sion Cwilt. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Eurfyl i Ceri a Shon am feirniadu, i John am ei gynorthwyo i arwain y noson, i dafarn Ffostrasol  am ganiatau i ni gynnal yr Eisteddfod yno  ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth. Roedd hi’n wych cael dod at ein gilydd unwaith yn rhagor a treuliwyd amser hyfryd yn cymdeithasu’n braf ar derfyn yr Eisteddfod.

    Dyma restr y canlyniadau:-

    Dweud Joc

    1. Wyn Evans, Sion Cwilt
    2. Geraint Morgan, Cors Caron
    3. Vernon Beynon, Beca

    Stori a Sain

    1. Huw a Daniel, Cors Caron
    2. Tudur ac Eurfyl, Beca
    3. Digby ac Wmffre, Sion Cwilt

    Sgetsh

    1. Beca
    2. Cors Caron
    3. Sion Cwilt

    Can Ddigri

    1. Beca
    2. Sion Cwilt
    3. Cors Caron

    Cor

    1. Beca a Sion Cwilt
    2. Cors Caron

    Brawddeg ar y gair “FFOSTRASOL”

    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. Geraint Morgan, Cors Caron
    3. Geraint Morgan, Cors Caron

    Brysneges ar y lythyren “D”

    1. Alun Davies, Cors Caron
    2. John Jones, Cors Caron
    3. Eurfyl Lewis, Beca a.Gwyndaf Evans, Beca

    Limrig yn cynnwys y llinell “ Aeth Geraint I Ffrainc am y rygbi”.

    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. Eurfyl Lewis, Beca
    3. Eurfyl Lewis, Beca

    Creu arwyddair i unrhyw sefydliad

    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. John Jones, Cors Caron
    3. Geraint Morgan, Cors Caron

    Telyneg ar y testun “Dathlu”

    1. John Jones, Cors Caro
    2.   Ffugenw – Hiraeth
    3.    Eurfyl Lewis, Beca

     Cerdd ddigri ar y testun “Hoelen”.

    1. Geraint Morgan, Cors Caron
    2. John Jones, Cors Caron
    3. Eurfyl Lewis, Beca
    Geraint Morgan yn cael ei goroni
    John Jones yn derbyn y gadair
    Shon Rees beiriad gwaith llwyfan
    Y Prifardd Ceri Wyn Jones yn cael sbri wrth ddarllen peth o’r gwaith ysgrifenedig