NOS WENER 27ain o HYDREF
7.30 y.h.
Yn Nhafarn Ffostrasol
Bydd modd archebu bwyd yn ystod y noson
EITEMAU LLWYFAN
- Jôc neu stori – testun agored
- Stori a Sain
- Sgets – testun agored
- Cân ddigri – testun agored
- Côr – I Bob Un Sydd Ffyddlon (geiriau ar y cefn)
EITEMAU GWAITH CARTREF
- Brawddeg ar y gair FFOSTRASOL
- Brysneges ar y llythyren D
- Limrig yn cynnwys y llinell “I Ffrainc yr aeth Geraint i’r rygbi”
- Creu arwyddair gwreiddiol i unrhyw sefydliad
- Telyneg – Dathlu
- Cerdd Ddigri – Y Trip Anfoner y gwaith cartref erbyn y dyddiad cau sef Hydref 20fed at y beirniad Ceri Wyn Jones, drwy ebost i ceri.catrin@btinternet.com neu drwy’r post i Brynteg, Heol Felin Newydd, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1QT.
AMODAU
- Ni wobrwyr oni bydd teilyngdod
- Bydd y telerau arferol mewn grym
- Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i’r iaith honno fod yn weddus
- Bydd barn yr Is-bwyllgor yn derfynol
- Y gangen fuddugol i sicrhau fod tlws yr Eistddfod ar gael i’r Eisteddfod nesaf
- Rhaid dangos parch at y Beirniaid o leiaf hyd at ddiwedd yr Eisteddfod
- Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadleuaethau llwyfan
- Enillwyr y Goron a’r Gadair fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf
GWOBRAU
- Ni ddyfernir gwobr yn yr Adran Gwaith cartref i enillydd absennol
- Gwobrwyir Cadair yr Eisteddfod i enillydd y Delyneg a’r Goron i enillydd y Gerdd Ddigri
- Cyflwynwir Tlws Cangen Beca i’r gangen a’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
- Cyflwynir Tlws Cangen Aberporth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan yn marn y Beirniad
- Cyflwynir Tlws Coffa Huw ‘Bach’ Griffiths i’r Côr buddugol
- Cyflwynir Tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf
Can y côr
I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef:
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.
Cytgan:
I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.
Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd.
Awn i gwrdd y gelyn,
Bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i’n herbyn
A’i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau,
Ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau
Acw sydd o’n tu!